Ail Brawf: De Affrica 12-13 Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth hanesyddol a chofiadwy, os annisgwyl, yn erbyn De Affrica yn Ail Brawf Cyfres yr Haf.

Ail Brawf: De Affrica 12-13 Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth hanesyddol a chofiadwy, os annisgwyl, yn erbyn De Affrica yn Ail Brawf Cyfres yr Haf.

Gareth Anscombe a Josh Adams oedd yr arwyr yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein wrth droi'r fantol ar ddiwedd gem yr oedd y tim cartref wedi ei rheoli'n llwyr am gyfnodau helaeth.

Gyda llai na chwarter awr yn weddill, a thim Wayne Pivac dan bwysau, roedd yn ymddangos bod ciciau'r capten Handre Pollard wedi sicrhau'r fuddugoliaeth - a'r gyfres - i'r Springboks.

Ond fe sgoriodd Adams gais hwyr - unig gais y gem - cyn i Anscombe gadw'i ben a throsi un o giciau pwysicaf ei yrfa i gipio'r fuddugoliaeth.

Cafodd Cymru'r dechrau gorau bosib, gan sgorio triphwynt cyntaf y gem gyda munud yn unig ar y cloc. Troseddodd y blaenasgellwr Pieter-Steph du Toit i ildio cic gosb ac fe giciodd y capten Dan Biggar yn gywir i wneud hi'n 0-3.

Ond yn fuan iawn roedd y Springboks wedi setlo a Kurt-Lee Arendse a'r wythwr Evan Roos yn bygwth llinell Cymru yn gynnar yn eu gemau prawf cyntaf. Gyda naw munud ar y cloc roedd y gem yn gyfartal wedi cic gosb lwyddiannus Pollard.

Roedd yna gyfle i Gymru fynd ar y blaen eto, ond fe fethodd Biggar gic gosb o bell.

Bu'n rhaid i Alex Cuthbert - yr unig newid i'r tim a gollodd yn y prawf cyntaf - adael y maes yn yr 17eg munud ac fe ddychwelodd Josh Adams i'r asgell yn ei le.

Cynyddu'r momentwm wnaeth De Affrica wedi hynny gan orfodi Cymru i dreulio cyfnod helaeth yn eu hardal 22 eu hunain. Ond fe fethodd Pollard gyfle i roi ei dim ar y blaen wedi i Gymru ildio cic gosb.

Serch hynny, y Springboks wnaeth rheoli'r chwarae weddill yr hanner ac fe ddangosodd chwaraewyr fel Tommy Reffell a Dan Lydiate gymeriad wrth atal ymosodiadau a chadw'r sgor yn gyfartal.

Roedd y gyfres yn dal yn y fantol felly ar ddechrau'r ail hanner, gyda Tomos Williams ar y cae yn lle Keiran Hardy.

Ond wedi pedwar munud o chwarae roedd De Affrica ar y blaen am y tro cyntaf wedi ail gic gosb Pollard.

Fe allai Biggar wedi gallu unioni'r sgor ddau funud yn ddiweddarach ond fe giciodd yn aflwyddiannus am yr eildro.

Ond llwyddo wnaeth Pollard gyda'i drydedd gic gosb yntau o'r prynhawn, gan estyn mantais ei dim i 9-3 wedi 52 o funudau.

Cynyddodd y tempo, a'r pwysau ar Gymru, wrth i chwaraewyr De Affrica godi ger, ac fe ddaeth Alun Wyn Jones i'r maes yn lle Will Rowlands yn yr ail reng.

Ond o fewn ychydig funudau, ac am yr ail benwythnos yn olynol, fe welodd gerdyn melyn a'i hel i'r gell gosb ond roedd sylwebwyr o'r farn iddo gael ei gosbi'n annheg.

Gyda Chymru lawr i 14 dyn, fe estynnodd Pollard y bwlch i 12-3 gyda'i bedwaredd gic gosb gywir.

Daeth Josh Navidi ymlaen yn lle Lydiate, ac yna Sam Wainwright i sicrhau ei gap rhyngwladol cyntaf wedi i Dillon Lewis adael yn dilyn anaf.

Roedd yna lygedyn o obaith wedi cic gosb berffaith o bell gan Anscombe i wneud hi'n 12-6 gyda 13 munud o'r 80 i fynd.

Dychwelodd Alun Wyn Jones i'r cae, ond roedd yna arwyddion o flinder ymhlith chwaraewyr y ddwy garfan ar drothwy'r 10 munud olaf.

Gyda phum munud yn weddill, fe lwyddodd Cymru i gyfeirio'r bel o'r lein yn ddwfn i dir y tim cartref, gan greu'r cyfle gwirioneddol cyntaf i'w rhoi hwythau dan bwysau a mentro er mwyn ceisio cipio'r fuddugoliaeth.

A dyna'n union y gwnaethon nhw gyda dau funud yn weddill - prin oedd George North wedi cael cyffyrddiad drwy'r gem, ond roedd ei bas at Adams yn allweddol ac fe wibiodd yr asgellwr i'r gornel a thirio.

Roedd trosiad Anscombe o ongl dynn yr un mor gampus, ac yn groes i lif y chwarae am fwyafrif y prynhawn roedd Cymru bwynt ar y blaen gyda munudau'n unig i amddiffyn y fantais.

12-13 oedd y sgor terfynol felly ac mae buddugoliaeth hanesyddol Cymru'n cadw'r gyfres yn fyw ar gyfer diweddglo cyffrous i Gyfres yr Haf yn y Trydydd Prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn nesaf.