Arestio dau mewn cysylltiad a gwrthdrawiad yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson mewn cysylltiad a gwrthdrawiad ar un o ffyrdd prysuraf Abertawe.

Arestio dau mewn cysylltiad a gwrthdrawiad yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson mewn cysylltiad a gwrthdrawiad ar un o ffyrdd prysuraf Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Fabian yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a seiclwr tua 14:30 brynhawn Sadwrn

Cafodd y seiclwr - bachgen 16 oed - anafiadau difrifol a bu'n rhaid ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ble mae'n parhau i gael triniaeth.

Dywed yr heddlu bod dyn 38 oed a menyw 39 oed yn y ddalfa ar ol cael eu harestio mewn cysylltiad a'r digwyddiad.

Roedd y ffordd ar gau am o gwmpas chwech awr ddydd Sadwrn, ac mae'r llu wedi "diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a goddefgarwch tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal" yn ardal y gwrthdrawiad.

Maen nhw'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth neu luniau all fod o gymorth i'r ymchwiliad.