Arestio dyn mewn cysylltiad a marwolaeth dynes

Mae dyn wedi cael ei arestio yn Sir Y Fflint mewn cysylltiad a marwolaeth dynes.

Arestio dyn mewn cysylltiad a marwolaeth dynes

Mae dyn wedi cael ei arestio yn Sir Y Fflint mewn cysylltiad a marwolaeth dynes.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad yn nhref Bwcle fore Sadwrn ble daethon nhw o hyd i gorff y ddynes.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn cael ei holi gan swyddogion mewn cysylltiad a'r digwyddiad.

Does dim manylion pellach ar hyn o bryd, ond mae'r heddlu'n dweud y gallai'r cyhoedd fod yn dawel eu meddyliau "bod hwn yn cael ei drin fel digwyddiad unigol".