Bachgen 15 oed wedi marw mewn chwarel ym Mhont-y-pwl

Mae bachgen 15 oed wedi marw ar ol syrthio mewn chwarel ym Mhont-y-pwl ddydd Mercher.

Bachgen 15 oed wedi marw mewn chwarel ym Mhont-y-pwl

Mae bachgen 15 oed wedi marw ar ol syrthio mewn chwarel ym Mhont-y-pwl ddydd Mercher.

Cafodd merch 14 oed, oedd gyda'r bachgen, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw am 18:30 a bod parafeddygon wedi cadarnhau marwolaeth y bachgen, o ardal Pont-y-pwl.

Cafodd y ferch, o ardal Blaenafon, ei chludo gan Ambiwlans Awyr i'r Ysbyty Athrofaol.

Dywed Heddlu Gwent fod swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r bachgen, ac y dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth am ddigwyddiad gysylltu a nhw.