Damweiniau M4: Oedi i yrrwyr

Mae rhan o'r M4 yng Nghasnewydd ar gau fore Sul yn dilyn damwain.

Damweiniau M4: Oedi i yrrwyr

Mae rhan o'r M4 yng Nghasnewydd ar gau fore Sul yn dilyn damwain.

Mae disgwyl oedi am beth amser tan y bydd y draffordd wedi ei chlirio.

Mae cerbydau sy'n teithio i gyfeiriad Caerdydd yn cael eu dargyfeirio oddiar y draffordd yng nghylchdro Coldra ger gwesty'r Celtic Manor.

Digwyddodd y ddamwain rhwng cyffordd 24 a chyffordd 25, y troad am Gaerllion.

Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi cadarnhau bod y lon i'r dwyrain ger cyffordd 30 ynghau hefyd wedi damwain ger Porth Caerdydd