Dau yn gwadu dynladdiad merch anabl 16 oed ym Mhowys

Mae dau o bobl wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad merch yn ei harddegau drwy esgeulustod difrifol.

Dau yn gwadu dynladdiad merch anabl 16 oed ym Mhowys

Mae dau o bobl wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad merch yn ei harddegau drwy esgeulustod difrifol.

Cafwyd hyd i Kaylea Louise Titford - oedd yn 16 oed - yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd, Powys ym mis Hydref 2020.

Mae Alun Anthony Titford, 44, a Sarah Jane Lloyd-Jones, 39, o'r Drenewydd wedi'u cyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ac o achosi neu ganiatau marwolaeth plentyn neu berson bregus.

Fe wnaeth Mr Titford a Ms Lloyd-Jones bledio'n ddieuog i'r ddau gyhuddiad yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Mewn gwrandawiad blaenorol, honnwyd fod y ddau wedi methu a chyflawni ei hanghenion dietegol, gan arwain at ei gordewdra.

Roedd Kaylea Louise Titford yn anabl ac yn byw gyda'r ddau ddiffynnydd.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechniaeth gan y Barnwr Rhys Rowlands, ac mae disgwyl i'r achos llys gael ei chynnal ym mis Ionawr 2023.