Galw i gyhoeddi papurau llys Mulligan - llofrudd Logan Mwangi

Mae ymgyrchydd wedi galw i ddyfarniadau llys preifat sy'n gysylltiedig a'r llofrudd 14 oed, Craig Mulligan, gael eu cyhoeddi er mwyn "dysgu gwersi".

Galw i gyhoeddi papurau llys Mulligan - llofrudd Logan Mwangi

Mae ymgyrchydd wedi galw i ddyfarniadau llys preifat sy'n gysylltiedig a'r llofrudd 14 oed, Craig Mulligan, gael eu cyhoeddi er mwyn "dysgu gwersi".

Pum niwrnod cyn marwolaeth Logan Mwangi ym mis Gorffennaf y llynedd, cafodd Mulligan ei roi yng ngofal ei lys-dad, John Cole.

Bu farw Logan, y bachgen pum mlwydd oed, o anafiadau "catastroffig" cyn cael ei adael mewn afon ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Craig Mulligan, John Cole a mam Logan, Angharad Williamson, eu carcharu am lofruddiaeth Logan Mwangi yr wythnos ddiwethaf.

Yn ol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddai cyhoeddi dogfennau sy'n gysylltiedig a Cole a Williamson am warchodaeth Mulligan yn "fater i'r barnwr annibynnol yn yr achos i benderfynu".

Dywedodd John Hemming, cyn Aelod Seneddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd hefyd yn ymgyrchydd ar gyfer gwelliannau i gyfiawnder teuluol bod yn "rhaid ymchwilio pob manylyn i ddarganfod y gwir yn yr achos hwn."

"Mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod pa wybodaeth oedd gan y barnwyr llys teulu am yr achos hwn a pha benderfyniadau gafodd eu gwneud.

"Y peth pwysicaf yw sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu, a dyw gwersi ddim yn gallu cael eu dysgu os nad yw darnau o wybodaeth ar gael er mwyn ei drafod yn iawn."

Fe glywodd y llys fod Mulligan yn "fachgen cymhleth, cythryblus a threisgar" erbyn iddo gael ei gymryd oddi wrth ei fam a'i roi mewn gofal.

Roedd ei lys-dad, John Cole, 40 ac Angharad Williamson, 31, wedi brwydro yn erbyn y llys teulu i gael gwarchodaeth o'r llanc 14 oed.

Mae Cole a Williamson wedi cael dedfrydau oes am lofruddiaeth bachgen pum mlwydd oed, tra bod Mulligan hefyd wedi cael dedfryd oes, a bydd yn rhaid iddo yn aros yn y ddalfa am o leiaf 15 mlynedd.

Roedd Cole hefyd wedi cyfaddef gwyrdroi'r cwrs cyfiawnder tra bod Williamson a Mulligan yn euog o'r un cyhuddiadau ar ol i'r llys gael gwybod iddynt symud corff Logan i'r afon, tynnu ei ddillad, golchi'r dillad gwely oedd a gwaed arnynt a gwneud cais ffug am berson ar goll.

Mae adolygiad ar y gweill ynghylch amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad annibynnol cenedlaethol i wasanaethau plant ar draws y wlad.