Heddlu'n arestio 12 wedi protest tanwydd ar y ffyrdd

Yn ol Heddlu Gwent mae 12 o bobl wedi cael eu harestio wedi i brotestwyr yn erbyn pris uchel tanwydd dargedu traffyrdd.

Heddlu'n arestio 12 wedi protest tanwydd ar y ffyrdd

Yn ol Heddlu Gwent mae 12 o bobl wedi cael eu harestio wedi i brotestwyr yn erbyn pris uchel tanwydd dargedu traffyrdd.

Fore Llun fe lwyddodd ymgyrchwyr i gau rhannau o'r draffordd rhwng Bryste a de Cymru am gyfnod, gan gynnwys Pont Tywysog Cymru dros Afon Hafren.

Mae'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar draffyrdd drwy'r Deyrnas Unedig gyda'r heddlu yn rhybuddio am oedi sylweddol i deithwyr.

Dywedodd yr heddlu bod y 12 wedi eu harestio am yrru ar gyflymder o lai na 30mya am gyfnod hir.

Fe lwyddwyd i ailagor lon ddwyreiniol y bont am 11:45.

Oherwydd cau'r ffordd ddwyreiniol, roedd dargyfeiriadau yn cyfeirio gyrwyr at bont yr M48.

Y gred yw bod y protestiadau wedi'u trefnu drwy'r cyfryngau cymdeithasol o dan y faner Fuel Price Stand Against Tax.

Mae disgwyl tagfeydd ar hyd y Deyrnas Unedig wrth i wrthdystwyr gynnal digwyddiadau eraill.

Yn ol Heddlu Gwent mae disgwyl i brotestiadau gael eu cynnal rhwng 07:00 a 19:00, gyda swyddogion yn ceisio sicrhau nad ydy'r protestwyr yn teithio ar gyflymder o lai na 30mya.

Mewn ymateb i'r protest dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak, y bydd yn ystyried yn ofalus y galwadau am doriad treth tanwydd "mwy sylweddol" wedi i ostyngiad o 5c y litr fis Mawrth fethu ag atal codiad mewn prisiau.

Mae ffigyrau gan y cwmni data Experian yn dangos bod pris cyfartalog litr o betrol yn y DU wedi cyrraedd uchafbwynt newydd o 191.4c ddydd Iau, tra bod disel wedi codi i 199.1c.

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Er ein bod yn deall bod pobl yn cael trafferth gyda phrisiau cynyddol a bod ganddyn nhw hawl i brotestio, ni ddylid amharu ar fywydau pob dydd pobl."

Ychwanegodd llefarydd y bydd oedi traffig "ond yn ychwanegu at y defnydd o danwydd".