Llafur yn cefnogi cynlluniau i ehangu'r Senedd

Mae aelodau'r blaid Lafur yng Nghymru wedi cytuno i gefnogi argymhellion i ehangu'r Senedd ym mae Caerdydd a newid sut y mae'r corff yn cael ei ethol.

Llafur yn cefnogi cynlluniau i ehangu'r Senedd

Mae aelodau'r blaid Lafur yng Nghymru wedi cytuno i gefnogi argymhellion i ehangu'r Senedd ym mae Caerdydd a newid sut y mae'r corff yn cael ei ethol.

Roedd 75.64% o'r rhai bleidleisiodd mewn cynhadledd arbennig ym mae Caerdydd yn gefnogol i argymhellion y Prif Weinidog Mark Drakeford i gynyddu aelodau'r Senedd o 60 i 96.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ei blesio gyda chanlyniad y bleidlais

"Fe fydd y bleidlais heddiw yn cryfhau democratiaeth Cymru, sicrhau dyfodl ein Senedd a gwneud yn siwr y bydd pobl ar draws Cymru yn cael eu cynrychioli yn fwy effeithiol gan adlewyrchu y Gymru fodern ry'n ni'n byw ynddi."

Roedd undebau'r GMB ac Usdaw wedi rhybuddio y galli'r cynlluniau ei gwneud hi'n anoddach i Lafur ddal eu gafael mewn grym.

Ond fe gafodd y cynlluniau eu cefnogi gan undebau dylanwadol eraill Unsain, Unite ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU ynghyd a'r rhan fwyaf o'r etholaethau.

Fe fydd yn rhaid i'r newidiadau gael cefnogaeth dwy ran o dair o'r Senedd cyn iddyn nhw ddod i rym.

Mae'r cynlluniau yn rhan o ddealltwriaeth rhwng y Prif Weinidog a Phlaid Cymru.

Mewn ymateb i'r bleidlais dywedodd Rhys ab Owen, llefarydd Plaid cymru ar y Cyfansodddiad

"Mae Plaid Cymru yn croesawu penderfyniad y blaid Lafur i gefnogi'r cynlluniau yn ffurfiol ar gyfer Senedd gryfach, fwy amrywiol a sydd yn fwy cynrychioladol."

Roedd e hefyd yn feirniadol o ffigyrau blaenllaw yn y blaid Lafur gan gynnwys y dirprwy arweinydd Cymreig, Carolyn Harries a Chris Bryant, aelod seneddol Rhondda Cynon Taf am feirniadu'r cynlluniau. Mynnodd nad oedd hanes ar eu hochr nhw.

Mae'r Ceidwadwyr, sydd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau, yn galw unwaith eto am refferendwm er mwyn i bobl Cymru gael penderfynu a ddylai'r Senedd ehangu a'i peidio.

Y nod yw cyflwyno'r newidiadau erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026,

Fe fydd y drefn newydd yn golygu cwotas rhyw er mwyn annog cynrychiolaeth uwch o blith merched.