'Llai o dai haf yng Ngwynedd yn sgil treth uwch'

Mae nifer yr ail gartrefi yng Ngwynedd wedi gostwng, yn rhannol oherwydd treth newydd sydd ceisio mynd i'r afael a'r broblem ail gartrefi, medd y cyngor sir.

'Llai o dai haf yng Ngwynedd yn sgil treth uwch'

Mae nifer yr ail gartrefi yng Ngwynedd wedi gostwng, yn rhannol oherwydd treth newydd sydd ceisio mynd i'r afael a'r broblem ail gartrefi, medd y cyngor sir.

Yn ol y ffigyrau diweddaraf, roedd yna 4,720 o ail gartrefi yn y sir, o'i gymharu a 5,098 y llynedd.

Y llynedd fe benderfynodd y cyngor i godi'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 50% i 100%, yn sgil ofnau bod pobl leol methu fforddio i brynu tai yn eu cymunedau.

Dywedodd llefarydd bod y polisi'n "gweithredu fel gwrthanogaeth i fod yn berchen ar, neu brynu ail gartref yn yr ardal".

Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod y gostyngiad o 7.4% yn sgil ceisiadau gan berchnogion i ailddosbarthu eu heiddo'n unedau gwyliau hunan-arlwyo.

Mae Gwynedd ar hyn o bryd yn codi premiwm 100% yn achos 3,746 o gartrefi. Mae yna bremiwm 100% hefyd yn siroedd Abertawe (ar 1,284 o gartrefi), a Phenfro (3,794).

Mae cynghorau Ynys Mon, Dinbych a Sir Y Fflint yn codi premiwm o 50% ar hyn o bryd, a 25% yw'r premiwm yn Sir Conwy.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bolisi newydd fel rhan o cytundeb cydweithredu'r ddwy blaid, sy'n rhoi'r hawl i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a chartrefi gwyliau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod "yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu mesurau newydd i reoli nifer y cartrefi gwyliau yn yr ardal".

Dywedodd y cyngor mai'r bwriad yw "atal perchnogion ail gartrefi rhag newid statws eu heiddo i osgoi talu'r premiwm treth cyngor a chynyddu nifer y tai sydd ar gael i bobl leol am bris fforddiadwy".

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru hefyd yn amlygu darlun cymysg ymhlith cynghorau eraill sy'n codi premiwm treth cyngor o 100% ar ail dai yng Nghymru.

Yn Sir Benfro, fe gododd nifer yr ail gartrefi o 4,068 yn 2021/22 i 4,216 eleni.

Ond roedd yna ostyngiad yn Sir Abertawe yn yr un cyfnod - o 2,104 i 1,585.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai "megis rhan o'r broblem dai" yw ail gartrefi.

Mae'r mudiad ymgyrchu'n galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl leol "a'r hawl i gartref ac yn cael eu blaenoriaethu".

Dywedodd cadeirydd grwp cymunedau cynaliadwy'r Gymdeithas, Jeff Smith: "Mae yna gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i fesurau o'r fath."