Lluniau: Gwyl y Felinheli nol wedi'r pandemig

Wedi seibiant oherwydd y pandemig mae gwyl gymunedol pentref Y Felinheli ar lannau'r Fenai wedi dychwelyd o'r diwedd ar gyfer wythnos o ddigwyddiadau a dathliadau.

"Mi fuodd na gynnwrf mawr ar lannau'r Fenai wrth i'r pentref ddod at ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers blynyddoedd," meddai Osian Owen o bwyllgor Gwyl Y Felinheli.

"Mi rydan ni'n teimlo'n falch ohoni. Dyma lle mae'r pentref cyfan yn dod ynghyd, o bob cenhedlaeth, i ddathlu'r gymuned unigryw ydan ni'n cael y fraint o fod yn rhan ohoni."

Dyma flas ar rhai o uchafbwyntiau'r wythnos mewn lluniau - o sioe dalent Stwr wrth y Dwr, noson gwis, Ras 10k, ffair cynnyrch lleol, noson lawen, a gorymdaith a charnifal ar y dydd Sadwrn olaf.

Mae mwy o luniau i'w gweld ar wefan yr wyl.