'Mae angen rheolau i atal gadael cychod i ddirywio'

Mae yna rybudd bod diffyg rheolau'n ymwneud a chael gwared ar gychod ar ddiwedd eu hoes, ynghyd a'r gost, yn achosi pobl i gefnu arnyn nhw gan achosi "problem i rywun arall".

'Mae angen rheolau i atal gadael cychod i ddirywio'

Mae yna rybudd bod diffyg rheolau'n ymwneud a chael gwared ar gychod ar ddiwedd eu hoes, ynghyd a'r gost, yn achosi pobl i gefnu arnyn nhw gan achosi "problem i rywun arall".

Yn ol amcangyfrif, mae tua miliwn o gychod amrywiol, gan gynnwys caiacau, wedi eu gadael i ddirywio ar draws y DU.

Gan fod cost sgrapio cychod mawr mor uchel a PS3,000, mae perchnogion mewn rhai achosion wedi eu cynnig ar wefan am gyn lleied a PS1 i osgoi gorfod eu gwaredu eu hunain.

Mae wedi arwain at rybuddion bod "ton fawr" o gychod yn cael eu gadael, sydd a'r potensial i achos niwed mawr i fywyd morol, ac i bobl.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried ffyrdd o fynd i'r afael a'r broblem.

Mae'r biolegydd gwyddorau mor, Dr Corina Ciocan o Brifysgol Brighton wedi darganfod "meintiau anferthol" o ddarnau man gwydr ffeibr cychod mewn wystrys a chregyn gleision, gan eu cymharu ag asbestos.

Mae'r ffeibrau, meddai, "fel pigau" nad yw'n bosib eu tynnu o'r creaduriaid, gan achosi i falwen fach ymdebygu i "glustog pinau".

Mae hi'n galw am yr un math o ymwybyddiaeth i'r broblem ag ymgyrch hir Syr David Attenborough yn erbyn llygredd plastigion.

Rhybuddiodd y gallai perchnogion fynd a'u cychod i'r mor, drilio tyllau ynddyn nhw a'u gadael i suddo os na chaiff rheolau gwaredu eu creu.

Ar hyn o bryd, does dim modd ailgylchu byrddau syrffio a phadlfyrddio sy'n cynnwys ffeibr gwydr ac felly maen bosib y gallen nhw beryglu bywyd morol petasen nhw'n cael eu taflu.

Pan gyhoeddodd Dr Ciocan ymchwil ar effeithiau'r broblem yn Harbwr Chichester, fe gafodd negeseuon yn dweud bod o'n "broblem anferthol" ar draws y byd.

Mae datgymalu cychod "yn broses gymhleth iawn", gan leihau'r opsiynau i berchnogion. Rhaid gwaredu olewon, cemegau a phlastigion cyn delio a chorff y cwch - haenau o resin polyester, sydd weithiau'n gymysg a choed balsa a sbwng.

"Mae angen cymhelliad fel bod perchnogion cychod yn eu gwaredu mewn ffordd sy'n garedig i'r amgylchedd," meddai.

"Fel arfer, yr hynaf yw'r cwch, y tlotaf yw'r perchennog. Bydd dim llawer o arian i wario am ddulliau gwaredu profedig yn wyddonol."

Daeth Ray Hobbs, o Borth Tywyn, ar draws "mynwent llongau" wrth fynd a'i gi am dro yn ardal aber Afon Cleddau ger Llangwm, yn Sir Benfro.

Fel ffotograffydd, sylwodd ar effaith rhew dro nos a'r heulwen ben bore ar y cychod.

Ond fe ddechreuodd ystyried pa mor hir roedden nhw wedi bod yna ac a fyddai'r perchnogion yn dychwelyd i'w casglu ryw ddydd.

"Beth fydd yn digwydd i'r cychod yma?" gofynnodd.

"Fyddan nhw'n cael eu hawlio'n ol a'u hadfer gan eu perchnogion...?

"Ynteu'n dirywio yn y ponciau llaid hallt hyd byth?"

Yn ol Cyngor Sir Penfro does dim dyletswydd ar yr awdurdod o ran delio a'r cychod, ac mae cynghorwyr yn Llangwm yn ansicr pwy sydd biau'r cychod sydd yno.

Mae "ton fawr o gychod gadawedig" yn bosib yn y 15 mlynedd nesaf, medd Luke Edney o un o'r ychydig gwmniau gwaredu trwy'r DU, Boatbreakers.

"Mae yna ormod o gychod a dim digon o bobl, ac mae'n amhosib i'w hailgylchu ar y foment," meddai.

Dan reolau gwaredu cerbydau ar ddiwedd eu hoes, gall perchnogion dderbyn PS50 am sgrapio car, ond gall cael gwared ar gwch, medd Mr Edney, gostio tua PS100 y troedfedd.

Mae'n gallu achosi "cur pen" i awdurdodau lleol, os oes angen meddiannu cwch sydd wedi ei adael mewn harbwr.

Fe gostiodd PS125,000 i Awdurdod Harbwr Truro, yng Nghernyw gael gwared ar ddau gwch.

"Hira'n byd mae'r awdurdod lleol yn eu gadael yn eu lle, gwaetha'r byd y cyflwr a'r gost... mae'n Catch 22," ychwanegodd.

"Os gall rhywun werthu'r cwch yn rhad, mi wneith nhw eu pasio ymlaen. Ond os wnaethon nhw ei brynu am PS1, does dim gwerth iddo felly gallen nhw ei ddympio ar ol blino arno."

Mae pobl hefyd yn amharod i dalu, er enghraifft, PS5,000-y-flwyddyn i adael cwch hwylio 25 troedfedd mewn ambell harbwr wrth i'r cwch heneiddio.

"Mae Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa achos dyw rhai pobl heb allu mynd i'w cychod am ddwy flynedd felly roedd yr injan cau tanio a phroblemau eraill.

Mae yna reolau yn achos cychod camlesi ond does dim o gwbl ar yr arfordir, medd Mr Edney sydd o blaid treth i ariannu cynlluniau ailgylchu bob tro mae cwch yn cael ei brynu neu'i werthu.

Dywedodd uwch ymgynghorydd morol Cyfoeth Naturiol Cymru, Rowland Sharp nad oes yna gyfrifoldeb ar y cyngor na'r awdurdod harbwr i gael gwared o'r cychod ar ddiwedd eu hoes. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau os oes yna broblemau morlywio.

"Mae CNC ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o brosiectau i wella sut rydym yn delio gyda chychod ar ddiwedd eu hoes yng Nghymru, gan gynnwys un yn asesu'r sefyllfa yn Aberdaugleddau, a phrosiect trawsffiniol yn Afon Dyfrdwy."

Mae CNC hefyd yn datblygu protocol arfer gorau o ran delio gyda'r cychod, yn arbennig mewn ardaloedd gwarchodedig.

Mae'r BBC wedi gofyn wrth yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) am sylw.