Prawf Cyntaf: De Affrica 32 v Cymru 29

Wrth i'r cloc gyrraedd yr wyth deg munud roedd hi'n edrych fel petai Cymru wedi sicrhau gem gyfartal ond roedd yna ddiweddglo dramatig i'r prawf cyntaf.

Prawf Cyntaf: De Affrica 32 v Cymru 29

Wrth i'r cloc gyrraedd yr wyth deg munud roedd hi'n edrych fel petai Cymru wedi sicrhau gem gyfartal ond roedd yna ddiweddglo dramatig i'r prawf cyntaf.

Dim ond tri munud oedd ar y cloc pan gollodd y tim cartref y bel ar ol ei thaflu i'r lein

Llwyddodd Cymru i wrth ymosod yn gyflym gyda dwylo cyflym gan Nick Tompkins a George North yn rhyddhau Louis Rees-Zammit redodd bron o'r llinell hanner i groesi yn y gornel.

Doedd De Affrica ddim wedi dod dros y sioc honno pan sgoriodd Dan Biggar gyda chic adlam ryfeddol o hanner ei hun.

Ar ol y chwarter awr roedd pac y tim cartref yn dangos eu cryfder gan ennill ciciau cosb. Fe fethodd Elton Jantjies gyda'r gyntaf ond fe aeth yr ail, o safle mwy canolog, yn syth drwy'r pyst.

Dyma bwyntiau cyntaf De Affrica o flaen eu cefnogwyr eu hunain ers pedair blynedd.

Fe enillodd y Cymry gic gosb o fewn eu hanner eu hunain, ac ar ol llwyddiant Biggar gyda'r gic adlam fe roedd e yn ddigon hyderus i anelu am y pyst o bellter.

Er bod De Affrica yn ymosod yn gyson cynyddu waneth mantais yr ymwelwyr. Er bod Cymru wedi bod yn fler o dafliad i'r lein fe lwyddodd Nick Tompkins i daclo Elton Jantjies.

Llwyddodd Rees-Zammit i gyrraedd y bel rydd o flaen y cefnwr Damian Willemse a chroesi am ei ail gais. Ychwanegodd Biggar y ddau bwynt gyda'r trosiad gan dawelu'r dorf ymhellach.

Yn dilyn tacl rymus ar Faf de Clerk i atal cais ar ol 38 o funudau cafodd Biggar ei anfon i'r gell gosb am ddeg munud. Penderfynodd y barnwr ei fod wedi arafu'r bel yn ardal y gwrthdaro.

Cymru felly 18-3 ar y blaen ar yr egwyl yn Stadiwm Loftus Versfeld, Pretoria.

Dechreuodd De Affrica yr ail hanner yn ymosod yn galed yn hanner Cymru ac fe gawson nhw eu gwobrwyo pan lwyddodd y blaenwyr i helpu'r bachwr Nbonmabi dros y llinell. Cafodd y cais ei drosi gan Willemse.

Ar ol i Thomas Francis gael ei gludo o'r maes gydag anaf, sgoriodd y tim cartre eto gyda'r eilydd Malcom Marx yn croesi.

Wedi'r ail ddechrau fe enillodd y Cymry gic gosb ac fe ymestynodd Biggar fantais yr ymwelwyr i chwe phwynt.

Fe gollodd De Affrica eu momentwm gyda chicio bler gan De Clerk. Fe gafodd hynny ei gosbi wrth i Gymru ennill cic gosb arall. Triphwynt arall i Biggar.

Blaenwyr grymus yn cau'r bwlch

Ond roedd y tim cartre yn benderfynol o gau'r bwlch ac roedd y blaenwyr yn rhy gryf i'r amddiffyn gan ryddgau Chelin Kolbe yr asgellwr i sgorio yn y gornel. Caeodd Willmese y bwlch i ddau bwynt gyda'r trosiad.

Yn y cyfamser roedd yna ergyd arall i Gymru pan gafodd Alun Wyn Jones ei anfon i'r gell gosb.

Dyna oedd hanes arwr yr hanner cynatf Rees-Zammit hefyd chwe munud o'r diwedd. Wrth geisio atal De Affrica rhag croesi'r llinell fe gafodd ei gosbi am arafu'r bel.

Cafodd cais cosb ei ddyfarnu i'r tim cartre gan olygu eu bod ar y blaen am y tro cyntaf o 29-24.

Roedd Rhys Carre yn euog o droseddu hefyd yn ol y dyfarnwr ac aeth blaenwr Caerdydd i ymuno gyda Wyn Jones a Rees-Zammit yn y gell gosb.

Ond yn rhyfeddol roedd hynny yn sbardun i'r 12 crys Coch. Ciciodd Biggar gic gosb i'r ystlys ac o'r llinell sgoriodd Dewi Lake i'w gwneud hi'n gyfartal. Methodd Biggar y trosiad o drech blewyn.

Gyda'r cloc heibio'r wyth deg munud, cangymeriad gan Biggar yn ildio cic gosb arweiniodd at fuddugoliaeth De Affrica gyda Willemse yn sicrhau'r triphwynt oedd ei angen.

Siom i Gymru ond fe fydd y perfformiad yn un fydd yn rhoi hyder i dim Wayne Pivac y gallen nhw greu argraff yn y ddau brawf nesaf.

De Affrica: Damian Willemse; Cheslin Kolbe, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Elton Jantjies, Faf de Klerk; Ox Nche, Bongi Mbonambi, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi, Franco Mostert, Jasper Wiese.

Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Salmaan Moerat, Elrigh Louw, Kwagga Smith, Herschel Jantjies, Willie le Roux.

Cymru: Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar (capten), Kieran Hardy; Gareth Thomas, Ryan Elias, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Dewi Lake, Rhys Carre, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Owen Watkin.