Robin Parry Jones: Parafeddyg wedi marw ar ol i goeden ddisgyn arno

Mae cwest wedi clywed y bu farw parafeddyg 57 oed o Wynedd ar ol cael ei ganfod yn sownd dan goeden yr oedd wedi bod yn ei thorri.

Robin Parry Jones: Parafeddyg wedi marw ar ol i goeden ddisgyn arno

Mae cwest wedi clywed y bu farw parafeddyg 57 oed o Wynedd ar ol cael ei ganfod yn sownd dan goeden yr oedd wedi bod yn ei thorri.

Roedd Robin Parry Jones o Bwllheli wedi bod yn torri'r goeden i ffrind oedd yn byw ar lon gefn rhwng Llanystumdwy a Chricieth.

Yn agor y cwest i'w farwolaeth, dywedodd y Crwner Kate Sutherland fod Mr Jones wedi bod yn torri'r goeden ers yn gynnar yn y bore ar 23 Mehefin.

Ond y noson honno am tua 21:40, cafodd ei ganfod yn sownd dan y goeden gan aelod o'r cyhoedd oedd yn cerdded heibio.

Clywodd y cwest fod Mr Jones wedi cael ei drin gan barafeddygon, ond ei fod wedi cael ei gyhoeddi'n farw cyn yr oedd modd i'w gymryd i'r ysbyty.

Daeth prawf post mortem i'r canlyniad ei fod wedi marw o fethu a chael ei anadl wedi i'r goeden ddisgyn arno.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, roedd Mr Jones yn gweithio yng ngorsaf ambiwlans Pwllheli.

Roedd Mr Jones wedi cychwyn ei yrfa gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn 2000, cyn cymhwyso fel parafeddyg yn 2005.

Cafodd ei ddisgrifio gan ei gyd-weithwyr fel "person uchel ei barch, cariadus a hapus oedd yn adnabyddus iawn yng nghymuned Pwllheli".

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal rhagor o ymchwiliadau i amgylchiadau'r farwolaeth.