Simon Hart: 'Bwrw ymlaen' er i fwy ymddiswyddo

Mae'n "fusnes fel arfer" yn Swyddfa Cymru er gwaethaf yr ymddiswyddiadau o gabinet Llywodraeth y DU, yn ol Ysgrifennydd Cymru.

Simon Hart: 'Bwrw ymlaen' er i fwy ymddiswyddo

Mae'n "fusnes fel arfer" yn Swyddfa Cymru er gwaethaf yr ymddiswyddiadau o gabinet Llywodraeth y DU, yn ol Ysgrifennydd Cymru.

Mynnodd Simon Hart fod Swyddfa Cymru yn "bwrw ymlaen a... buddsoddiad ar draws pob rhan o Gymru".

Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid o gabinet Boris Johnson.

Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin a honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Mae cyfanswm yr ymddiswyddiadau ers nos Fawrth bellach yn 16, gan gynnwys y ddau o'r cabinet.

Yn ystod Cwestiynau Cymreig yn Nhy'r Cyffredin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wrth Mr Hart bod "dau weinidog cabinet wedi mynd, ei PPS [Ysgrifennydd Preifat Seneddol] wedi mynd, nid yw'n fusnes fel arfer, nac ydyw? Pryd fydd e [Hart] yn mynd?"

Anogodd Ysgrifennydd Cymru i Ms Saville Roberts "ymuno a ni yn yr ymdrech i wella bywydau pobl Cymru, yn hytrach na defnyddio cyfleoedd gwleidyddol eithaf rhad i wneud y gwrthwyneb".

Nid yw Mr Hart wedi gwneud sylw penodol am arweinyddiaeth Boris Johnson yn dilyn yr ymddiswyddiadau.

Yn yr ad-drefnu dilynol o'r cabinet, penodwyd:

Nos Fawrth, fe wnaeth AS Ceidwadol Ynys Mon, Virginia Crosbie, alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo yn dilyn ei phenderfyniad i gamu lawr o Swyddfa Cymru.

Cyhoeddodd Ms Crosbie ei bod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.

Dywedodd Ms Crosbie mai ei chred hi oedd bod y cyhoedd wedi penderfynu "na ellir ymddiried yn Mr Johnson i ddweud y gwir".

Ms Crosbie oedd yr AS Ceidwadol Cymreig cyntaf i alw'n gyhoeddus am ymddiswyddiad Prif Weinidog y DU.

Yn ei llythyr yn amlinellu ei rhesymau dros ymddiswyddo, dywedodd Ms Crosbie ei bod yn credu bod "y sefyllfa'n gwaethygu".

Dywedodd mai "datganiadau anghywir a gwrth-ddweud yr hyn yr oeddech chi'n gwybod" am Mr Pincher, sy'n wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol, "oedd y gwelltyn olaf".

Mae'r llythyr yn ychwanegu: "Does gen i ddim syniad beth sy'n digwydd yn Downing Street ond mae'n ymddangos eich bod naill ai'n cael eich cynghori'n wael neu'n methu a newid neu ddiwygio'r gweithrediad camweithredol sydd yng nghanol y llywodraeth rydych chi'n ei harwain."

Ychwanegodd: "Rydych chi wedi cyflawni llawer, ond does gen i ddim hyder y gallwch chi gyflawni unrhyw beth arall heblaw arwain y blaid i'r wrthblaid ac ansefydlogi'r swydd y mae gennych chi'r anrhydedd i'w dal.

"Rwy'n gwybod eich bod yn caru y wlad hon. Gallwch ei gwasanaethu am un tro olaf drwy adael y swydd," meddai.

Dywedodd Guto Bebb, cyn AS Ceidwadol Aberconwy a chyn weinidog yn llywodraeth Theresa May, fod Boris Johnson yn ddyn peryglus iawn o ran sefydlogrwydd y drefn wleidyddol ym Mhrydain.

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe wnaeth Mr Bebb wneud cymhariaeth a'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau.

"Dydi Boris Johnson ddim yn credu yn y gwirionedd, dydi o ddim yn credu mewn safonau," meddai.

"Dydi o ddim yn credu mewn unrhyw fath o reoliadau ar ei allu i weithredu fel prif weinidog ac mae hynny yn beryglus iawn.

"Yn fy marn i mae o yn gymeriad sydd a'r gallu i wneud yr un math o ddrwg i wleidyddiaeth ac sydd wedi digwydd yn America dan [Donald] Trump."

Dywedodd Mr Bebb fod yna rwygiadau "enbyd" wedi digwydd o fewn y blaid Geidwadol.

"Mae hi'n gyffredinol yn wir i ddweud nad ydy'r cyhoedd yn ymateb yn gadarnhaol i bleidiau sy' wedi eu rhannu," meddai.

"A mae hyn 'da ni wedi'i weld ddoe yn dangos bod yna rwygiadau enbyd yn y Blaid Geidwadol a'r llywodraeth yma.

"Un peth efallai sy'n fanteisiol i Boris Johnson ydy'r teimlad ymysg aelodau seneddol a hefyd aelodau y Blaid Geidwadol ar lawr gwlad nad oes yna ymgeisydd amlwg i ddilyn Boris Johnson."