Syrffiwr ifanc gollodd ei goes yn ehangu gorwelion y gamp

Mae syrffiwr ifanc a gollodd ei goes yn benderfynol o ehangu'r gamp i bobl ag anableddau a denu pobl i Gymru wrth gynnal cystadleuaeth syrffio addasol.

Syrffiwr ifanc gollodd ei goes yn ehangu gorwelion y gamp

Mae syrffiwr ifanc a gollodd ei goes yn benderfynol o ehangu'r gamp i bobl ag anableddau a denu pobl i Gymru wrth gynnal cystadleuaeth syrffio addasol.

Fe newidiodd bywyd Llywelyn Williams o Abersoch yn 2011 pan gollodd ei goes mewn damwain ffordd ddifrifol.

Ond o fewn blwyddyn, roedd yn ol ar ei fwrdd syrffio ac wedi addasu ei dechneg i herio'r tonnau.

Ers hynny, mae'r syrffiwr 26 oed wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau syrffio addasol ar gyfer pobl ag anableddau ers blynyddoedd.

Eleni, mae wedi trefnu Pencampwriaethau Syrffio Addasol cyntaf Cymru ym Mharc Antur Eryri ddydd Gwener a Sadwrn.

Bydd pobl o bedwar ban byd - gan gynnwys Hawaii, De Affrica, Israel a Chaliffornia - yn teithio i ogledd Cymru.

"Na'th y mor a syrffio helpu fi efo be es i drwyddo, ac mae lot sy'n cymryd rhan y penwythnos yma o'r un farn," eglurodd Llywelyn.

"Mae syrffio wedi healio nhw a chaniatau nhw i allu cario 'mlaen."

Treuliodd Llywelyn sawl wythnos yny Ysbyty Brenhinol Lerpwl, lle gafodd ei roi mewn coma. Ceisiodd y doctoriaid achub ei goes, ond ar ol pythefnos bu'n rhaid ei dynnu.

Ond er iddo golli ei goes, roedd yn gwrthod colli ffydd ac mae wedi cystadlu ym mhencampwriaethau'r byd.

Nawr, wrth i'r gamp ddod yn fwy poblogaidd, mae Llywelyn yn benderfynol o gynnig mwy o gyfleoedd i bobl sydd ag anableddau yng Nghymru.

"Pan ddechreuais i ym mhencampwriaethau'r byd yn 2015, dim ond 60 o bobl wnaeth ymgeisio.

"Erbyn hyn, mae'n nes at 100 ac mae'r safon mor uchel."

Ym mhwll Dolgarrog fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal, ac mae Llywelyn yn gobeithio y bydd hyn yn gynhwysol i bawb ac yn denu mwy o bobl i Gymru.

Mae naw categori gwahanol yn y bencampwriaeth - pob un yn addas ar gyfer gwahanol anableddau.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd: "Mae 'na bobl efo un goes sy 'di cael ei dorri o dan y ben-glin, uwch y ben-glin, ma 'na bobl ddall yn syrffio, ma' 'na bobl sy'n paralysed hefyd mewn cadeiriau olwyn.

"Fydda i'n syrffio ar fy mhen-glin, fydd pobl mewn cadair olwyn sydd angen help yn y dwr yn cael eu gwthio a fydd pobl yn eu dal nhw ar ddiwedd y don.

"Mae cystadlaethau fel hyn i gyd ar y mor neu draeth fel arfer, ond mae'n anodd i bobl mewn cadair olwyn ac ati.

"Mae ei gynnal yn y lleoliad yma yn lot saffach, mae yna doiledau, llefydd newid ac ati.

"Hwn oedd y cyntaf i'w wneud mewn pwll efo tonnau... mae lifeguards o gwmpas hefyd petai rhywun yn mynd i helynt.

"Dwi'n gobeithio 'neith o dyfu bob blwyddyn 'wan!"

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Parc Antur Eryri, Andy Ainscough, bod "hyder a phenderfynoldeb" Llywelyn yn ysbrydoledig.

"Mae Llywelyn yn anelu am y tonnau mwyaf a'r rhai mwyaf brawychus allan yna - mae'n llysgennad gwych i'r gamp o syrffio," meddai.

"Ry'n ni'n falch iawn o gael y Bencampwriaeth Addasol 'nol yma yn y parc ar ol i'r pandemig ei stopio ers dwy flynedd, ac mae'n argoeli i fod yn ddigwyddiad arbennig i bawb."