Trefynwy: Dyn wedi marw ddyddiau ar ol ymosodiad honedig

Mae dyn wedi marw ddyddiau ar ol iddo gael ei ganfod yn anymwybodol ar stryd yn Sir Fynwy.

Trefynwy: Dyn wedi marw ddyddiau ar ol ymosodiad honedig

Mae dyn wedi marw ddyddiau ar ol iddo gael ei ganfod yn anymwybodol ar stryd yn Sir Fynwy.

Cafodd y dyn 43 oed ei gludo i'r ysbyty ar ol cael ei ddarganfod yn Stryd Mynwy, Trefynwy, tua 01:15 fore Sul.

Ond dywedodd Heddlu Gwent ei fod wedi marw o'i anafiadau yn yr ysbyty ddydd Iau.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn 21 oed a dau ddyn arall, 19 oed, eu harestio ar amheuaeth o ymosod.

Mae un o'r ddau 19 oed yn y ddalfa, a'r llall ar fechniaeth. Cafodd y dyn 21 oed ei ryddhau yn ddiweddarach heb gyhuddiad.