Ys gwn i ble ga'i ysgawen?

Mae mis Mehefin hyd at ganol Gorffennaf yn gyfnod perffaith i fynd ati i grwydro'ch bro i gasglu ysgawen.

Ys gwn i ble ga'i ysgawen?

Mae mis Mehefin hyd at ganol Gorffennaf yn gyfnod perffaith i fynd ati i grwydro'ch bro i gasglu ysgawen.

Adam Jones, neu Adam yn yr ardd ar Facebook, sy' wedi bod yn rhannu ei gyfrinachau am hel ysgawen a beth yn union i'w wneud gyda nhw ar ol eu casglu.

O Dre-ysgawen i Bantysgaw mae modd dod o hyd i'r ysgawen ym mhob cornel o'r wlad. Mae'r ysgawen neu'r Sambucus yn Lladin yn un o'n coed mwyaf cyffredin. Mae'r blodau gwyn hufennog a'u harogl-helo-haf yn llenwi ein cloddiau'n ddirifedi ar hyn o bryd ac yn parhau i wneud tan ganol Gorffennaf.

Fel garddwr, dyma goeden yn ei blodau sy'n dweud 'mae'r gwanwyn ar ben a'r haf yn ei anterth'.

Mae'r blodau a'r ffrwythau ill dau yn dod a chnydau blasus sydd yn llawn rhinweddau da fel fitaminau a gwrthocsidyddion sy'n gallu cryfhau ein system imiwnedd yn erbyn heintiau fel bacteria a firysau.

Rwy'n cofio mynd i gasglu'r blodau gyda fy nhad-cu a'u rhoi i'n cymydog, fyddai wastad yn creu'r gwin mwyaf hyfryd allan ohonynt. Fel plentyn, dim ond rhyw joch bach oedd hawl 'da fi ei yfed yn anffodus ond roedd Tad-cu wastad ar ben ei ddigon.

Erbyn heddiw, rwy'n parhau i gasglu a defnyddio'r ysgaw ac mae modd bwyta pob rhan o'r planhigyn yn ddail, blodau ac aeron. Mae mis Mehefin a Gorffennaf yn adeg perffaith i fynd i gasglu'r blodau i wneud pob math o ddiodydd blasus fel cordial, siampen neu jin.

Mae coed ysgaw fel reol yn tyfu yn goed byrion wrth ymyl llwybrau cerdded, cloddiau neu wrth ochr coedydd. Maent bob tro yn ein gwahodd atynt gyda'r arwydd pendant eu bod yn barod ym mhersawr hyfryd y blodau gwynion sy'n yn llenwi'r llwyni. Clystyrau o flodau ydynt ar un ymbarel o goesyn fel petai, maint llaw fel rheol.

*Dewiswch ddiwrnod sych o heulwen braf pan fydd y blodau ar eu gorau a'r petalau'n sych, osgowch dywydd gwlyb.

*Ewch gyda hen ffon i ymestyn y brigau ystwyth fel y bydd modd ichi gyrraedd y blodau.

*Torrwch bennau'r blodau gyda siswrn a chofiwch adael bob yn ail flodyn i fod - bydd hyn yn sicrhau digon o fwyd i'r peillwyr ac yn golygu eu bod yn bwrw ffrwyth ac yn dod a chnwd newydd o aeron hyfryd yn yr hydref.

*Rhowch y blodau mewn bwced neu fasged, gan osgoi eu gwasgu i lawr a dinistrio'r petalau bach tyner.

*Defnyddiwch y blodau yn syth i ddal holl ffresni a blas y neithdar.

Cynhwysion:

*20 - 25 pen mawr o flodau ysgaw

*2 lemwn

*1kg o siwgr

*85g o asid sitrig (dewisol)

*2 litr o ddwr berw

Cam wrth gam:

Yn gyntaf gwiriwch nad oes unrhyw bryfed bach yn cwato yng nghanol y blodau, os yn ansicr, gallwch ysgwyd y blodau tu allan fel bod y pryfed bach yn cwympo oddi arnynt.

Nesaf, torrwch y ddau lemwn mewn i ddisgiau bach a'u gosod mewn sosban gyda'r blodau. Yna arllwyswch ddwr berw am eu pennau a'u gadael i ystwytho dros nos. Gallwch osod lliain sychu llestri neu gaead ar ben y sosban.

Fore wedyn, hidlwch yr hylif i mewn i sosban newydd gan ychwanegu'r siwgr a'i gymysgu'n dda tan fydd y siwgr i gyd wedi hydoddi. Mudferwch am ryw 10 munud tan fod yr hylif wedi tewhau ac yn ymdebygu i surop.

Gallwch hefyd ychwanegu asid sitrig i'r gymysgedd wrth ychwanegu'r siwgr. Bydd hyn yn golygu bod y cordial yn para tipyn yn fwy o amser na'r rysait sydd ond yn cynnwys siwgr ac yn golygu y cewch fisoedd lawer o flas yr haf.

Wedi i'r hylif fudferwi a thewhau mae'n amser ei rannu i boteli sydd wedi'i sterileiddio o flaen llaw. Mi ddylai gadw yn yr oergell am o leiaf 6 wythnos a hyd yn oed mwy os yn defnyddio asid sitrig.

A dyna ni mae'r cordial yn barod i'w fwynhau, rhowch rhyw joch fach (yn ol chwaeth personol) yng ngwaelod gwydryn ac yna ychwanegu ddwr neu ddwr pefriog a'i fwynhau ar ddiwrnod cynnes braf.

Melys moes mwy...

A'r peth gorau am yr ysgawen wrth gwrs yw bod mwy o gnydau blasus i ddod ym mis Awst a Medi pan fyddwn yn casglu'r aeron ac yn eu troi'n surop, gwin neu jeli hydrefol yn barod i'w storio am fisoedd hir a llwm y gaeaf.

Iechyd da

Hefyd o ddiddordeb: