Ysgrifennydd Cymru'n ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson, gan ddweud bod "dim dewis arall" iddo.

Ysgrifennydd Cymru'n ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson, gan ddweud bod "dim dewis arall" iddo.

Roedd Simon Hart ymysg sawl AS o'r cabinet a ddywedodd wrth y Prif Weinidog am ymddiswyddo yn gynharach ddydd Mercher.

Ond y gred yw bod Mr Johnson yn bwriadu parhau yn y swydd.

Dywedodd Mr Hart yn ei lythyr i'r Prif Weinidog ei fod "wedi gobeithio osgoi ei ysgrifennu", ond bellach bod "dim dewis arall ond gadael fy swydd".

Ychwanegodd bod "cydweithwyr wedi gwneud eu gorau yn gyhoeddus ac yn breifat i wella'r sefyllfa", ond bod y mater wedi "pasio'r pwynt ble mae hynny'n bosib" erbyn hyn.

Diolchodd am y cyfle i weithio yn y llywodraeth, gan ddweud nad oedd "moment ddiflas" yn ystod y cyfnod.

Daw ar ol i dri AS arall o Gymru ymddiswyddo, wrth i Mr Johnson wynebu galwadau i gamu lawr.

Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid o gabinet Boris Johnson.

Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin a honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Mae degau o ASau Ceidwadol wedi dilyn eu hesiampl ddydd Mercher, ac eraill wedi galw ar y Prif Weinidog i adael Rhif 10.

Nos Fercher, dywedodd James Davies, AS Dyffryn Clwyd, ei fod yn "amhosib amddiffyn" y Prif Weinidog yn wyneb yr "honiadau niweidiol", a'i bod yn "glir nad yw'r blaid na'r wlad yn rheoladwy" ganddo.

Roedd hynny ar ol i Craig Williams AS roi'r gorau i fod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Trysorlys, a Virginia Crosbie yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.

Brynhawn Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, "dwi'n meddwl ein bod ni ar fin gweld y diwedd nawr ac mae'n fater o amser oherwydd yn amlwg mae'r mwyafrif seneddol yna wedi diflannu".

Dywedodd Mr Davies wrth y BBC ei bod hi'n "amser i'r prif weinidog fyfyrio ar ei sefyllfa a chaniatau i rywun arall ymgymryd a'r fantell honno i gyflawni maniffesto'r Ceidwadwyr".

Yn gynharach yn y dydd, roedd Mr Davies wedi cydnabod bod cefnogaeth i'r prif weinidog ymhlith ASau Ceidwadol yn edrych yn fwyfwy "tenau".

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw am etholiad cyffredinol i benderfynu pa blaid wleidyddol ddylai feddiannu Stryd Downing.

"Gadewch i bobl y Deyrnas Unedig benderfynu a yw hon yn llywodraeth y maen nhw am ei gweld yn parhau neu, fel dwi'n credu y bydden nhw eisiau, i weld dechrau newydd," meddai.