Cymruyng nghanol "ton ddifrifol Iawn" o Covid-19

Mae Cymru yng nghanol "ton ddifrifol iawn" o heintiadau Covid-19, yn ol y Prif Swyddog Meddygol.

Cymruyng nghanol "ton ddifrifol Iawn" o Covid-19

Mae Cymru yng nghanol "ton ddifrifol iawn" o heintiadau Covid-19, yn ol y Prif Swyddog Meddygol.

Daw wrth i'r ystadegau diweddaraf amcangyfrif bod niferoedd achosion wedi codi am y pumed wythnos yn olynol.

Dywed Syr Frank Atherton bod math BA5 yr amrywiolyn Omicron yn achosi lefelau trosglwyddo uchel yn y gymuned.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, hefyd yn rhybuddio bod mathau "heintus eithriadol" o'r feirws "yn achosi ton o heintiadau ar draws y DU ac yn llawer o wledydd ar draws y byd".

Mae'r ddau wedi mynegi pryder am effaith bosib y sefyllfa ddiweddaraf ar y GIG.

Yn ol arolwg swabiau wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd un o bob 20 person yng Nghymru wedi eu heintio yr wythnos diwethaf - y lefel uchaf ers canol Ebrill.

Un o bob 30 person oedd a'r feirws yn ol amcangyfrif yr wythnos flaenorol.

Mae'r data hefyd yn awgrymu bod nifer y bobl oedd wedi cael prawf positif feirws wedi cynyddu 43,000, i 149,700, yn y saith diwrnod hyd at 1 Gorffennaf. Mae hynny'n gyfystyr a 4.93% o'r boblogaeth.

Mae'n dweud taw cynnydd mewn achosion is-amrywiolion BA.4 a BA.5 Omicron sydd i gyfri am y sefyllfa bresennol - datblygiad sydd hefyd wedi ei nodi mewn labordai yng Nghymru yn yr wythnos diwethaf.

Dywed Syr Frank Atherton bod trosglwyddiad cyflym math BA5 amrywiolyn Omicron yn dangos sut y "mae'r feirws yn esblygu'n gyson, ac mae pob straen newydd sy'n dod a mantais o ran trosglwyddo".

Cytunodd bod mwy o gymdeithasu cymunedol a digwyddiadau torfol yr haf hefyd yn helpu'r feirws i ledu.

"Rydym wedi mynd yn ol i'r drefn arferol mewn sawl ffordd fel cymdeithas ac mae'r feirws yn hoffi mynd o berson i berson mewn amgylchiadau torfol a dyna sut mae'n goroesi."

Ffactor arall, meddai, yw'r ffordd y mae'r brechlynnau'n atal salwch difrifol ond nid lledaeniad y feirws ei hun.

Dywed y Prif Swyddog Meddygol bod ganddo bryder bod y sector iechyd a gofal dan fwy o bwysau yn ystod misoedd yr haf, sy'n llai prysur fel arfer.

"Rydym yn gweld niferoedd sylweddol o gleifion mewn gwelyau ysbyty, ychydig dros 1,000 ar y foment, ac mae hynny yn amlwg yn cael effaith.

"Mae hynny'n tua 10% o ein gwelyau ysbyty."

Mae hefyd yn bryderus bod ffigyrau'n awgrymu bod bron i 12% o staff y Gwasanaeth Ambiwlans o'r gwaith ar hyn o bryd yn sal gyda Covid neu'n hunan-ynysu wrth i'r galw am wasanaethau gyrraedd lefelau uchel.

Yn ol y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae dros 960 o gleifion yn ysbytai Cymru gyda Covid-19.

Mae "cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y bobl gyda Covid-19 sy'n cael gofal critigol" ac mae "nifer fawr o staff y GIG o'r gwaith ar hyn o bryd am eu bod a Covid-19".

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd profion LFT ar gael am ddim i bobl gyda symptomau Covid tan ddiwedd Gorffennaf.

Mae Ms Morgan hefyd yn annog pobl i wisgo mwgwd mewn lleoliadau gofal iechyd ac "i ystyried" eu gwisgo mewn mannau cyhoeddus dan do tra bod achosion coronafeirws yn uchel.

Yn ol yr ONS, mae cyfraddau achosion yn is yng Nghymru nag yn Yr Alban (1 ymhob 17) a Gogledd Iwerddon (1 ymhob 19) ond yn uwch nag yn Lloegr a'i holl ranbarthau (1 ymhob 25).

Ers i'r drefn o gynnig profion PCR ddod i ben ddiwedd Mawrth, arolwg swabiau'r ONS yw'r awgrym mwyaf defnyddiol faint o bobl sydd a Covid.

Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod nifer y profion LFT hefyd wedi dyblu o fewn pythefnos, gyda 6,873 o brofion positif o fewn y grwp oedran 40-59 yn unig.

Yn y cyfamser, mae nifer y cleifion mewn gwelyau ysbyty aciwt sy'n cael prawf Covid positif ar ei lefel uchaf ers yr wythnos wedi'r Pasg ym mis Ebrill.

Roedd dros hanner y cleifion hyn wedi dal Covid tra yn yr ysbyty, ond roedd 88% o'r cleifion gyda Covid yn cael triniaeth ysbyty ar gyfer cyflwr arall yn bennaf, yn ol data dyddiol Iechyd Digidol a Gofal Cymru.

Dywed swyddogion iechyd bod adrannau damwain a brys ysbytai yn fwy prysur na'r arfer yr adeg yma o'r flwyddyn, ond mae niferoedd cleifion sy'n marw o Covid neu'n ddifrifol wael gyda'r feirws mewn unedau gofal brys yn parhau'n llawer is nag yn gynharach yn y pandemig.