Dathlu Pride yng nghefn gwlad 'yn bwysicach nag erioed'

Am y tro cyntaf yr haf hwn mae nifer o drefi cefn gwlad wedi bod yn cynnal digwyddiadau Pride.

Dathlu Pride yng nghefn gwlad 'yn bwysicach nag erioed'

Am y tro cyntaf yr haf hwn mae nifer o drefi cefn gwlad wedi bod yn cynnal digwyddiadau Pride.

Yn ol y trefnwyr maen nhw'n bwysig i ddangos i bobl LHDT+ sy'n byw mewn ardaloedd gwledig nad y'n nhw wedi eu hynysu.

Mae 'na 50 mlynedd ers i fudiad Pride ddechrau yn Llundain ac mae eu digwyddiadau blynyddol yn olygfa gyfarwydd yn ein dinasoedd, ond nawr mae 'na ymdrech i gynnal digwyddiadau tebyg mewn ardaloedd gwledig.

Mae 'na ddigwyddiadau eisoes wedi eu cynnal yn Y Gelli Gandryll a Llanymddyfri ac mae un i ddod yn Llandrindod y penwythnos nesaf.

Fe ddechreuodd Ella Peel grwp Calon Cymru LHDTC yn ardal Llanymddyfri fis Awst llynedd.

"O'n ni mo'yn neud rhywbeth i gefnogi'r gymuned LHDTC," meddai.

"Dechreuodd e fel rhywbeth bach ond nawr mae llwyth o aelodau gyda ni a hefyd mae pobl yn y dre' wedi bod yn gefnogol iawn."

Ddiwedd Mehefin fe gawson nhw wyl Pride yn y dref am y tro cyntaf.

"Mae'n bwysig iawn cynnal digwyddiadau oherwydd ar hyn o bryd mae pobl traws yn cael amser uffernol. Mae lot o gasineb tuag atyn nhw.

"Os ti'n byw mewn rhywle gwledig mae'n gallu bod yn unig.

"Mae'n bwysig nawr yn fwy nag unrhyw bryd i ddathlu pawb sy'n LHDTC ond yn enwedig pobl traws a non-binary."

Ymhlith gweithgareddau'r grwp mae sesiynau sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg.

Mae Ems Rixon yn gwerthfawrogi'r cyfle i fod yn rhan o'r grwp.

"Fel person non-binary dwi isie lle i ddysgu ac ymarfer Cymraeg mewn ble dwi'n gallu defnyddio fy rhagenw 'nhw' a bod hynny'n cael respect.

"Mae'n ffordd dda i gwrdd a phobl newydd a dwi'n fwy confident yn siarad Cymraeg pob dydd."

Bellach yn byw yn Llundain, mae Gethin Bickerton yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd tyfu lan yn berson hoyw yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn.

"Y prif beth oedd yn bryder i fi oedd diffyg role model," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gallu edrych ar rhywun a dweud, dyna ffermwr hoyw, dyna rhywun sy'n agored, sy'n cael ei dderbyn, rhywun sy'n byw bywyd hapus fel ffermwr hoyw.

"Doeddwn i ddim yn gallu gweld hynny ac o'n i'n meddwl ydyn nhw'n bodoli, ydy e'n rhywbeth allen i fod?"

Roedd profiadau Gethin yn ysgogiad iddo wirfoddoli yn y maes iechyd meddwl. Mae'n llysgennad ar gyfer Sefydliad DPJ.

"Dan ni 'di dod yn eitha' pell yn fy marn i, mae dal lot o ffordd i fynd, 'efo ffermwyr LGBT.

"Mae 'na sgop yna i ddod a phobl at ei gilydd a rhannu'r neges ein bod ni yma, ac ein bod ni yma i helpu'r diwydiant a dim cymryd dim byd i ffwrdd oddi wrth y diwydiant.

"Mae dal gormod o straeon am bobl yn cymryd bywydau nhw eu hunain sy'n dangos ei fod dal yn rhywbeth sydd angen gweithio allan, ond dwi'n hyderus fod pobl yn fwy agored i gael sgwrs a bod yna fwy o ymwybyddiaeth o ble i fynd os bysen i'n teimlo fel hyn.

"'Dan ni ar y trywydd cywir."

Cafodd Graham Nolan siom ar yr ochr orau wrth drefnu digwyddiad Pride yn Y Gelli Gandryll ganol Mehefin.

"Allen i ddim a bod wedi dychmygu'r fath dorf," meddai.

"Roedd e fel trefnu parti pen-blwydd pan yn blentyn a phawb yn dod.

"Roedd yna deimlad o gyfeillgarwch ac o gymuned braf yno.

"Ein gobaith ni nawr yw trefnu mwy o ddigwyddiadau lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain gyda'r gymuned o'u cwmpas yn eu cefnogi.

"Mae'n bwysig dangos nad yw pobl ar eu pennau eu hunain achos mae'n gallu teimlo felly wrth dyfu lan yng nghefn gwlad."