Y prif weinidog 'yn haeddu gadael gydag urddas', medd AS

Mae AS Ceidwadol Cymreig wedi dweud na ddylai Boris Johnson gael "ei ymlid" o Downing Street, ac y dylai aros yn y swydd tan fod ei olynydd wedi'i ddewis.

Y prif weinidog 'yn haeddu gadael gydag urddas', medd AS

Mae AS Ceidwadol Cymreig wedi dweud na ddylai Boris Johnson gael "ei ymlid" o Downing Street, ac y dylai aros yn y swydd tan fod ei olynydd wedi'i ddewis.

Dywedodd AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Fay Jones nad oedd modd i Mr Johnson aros yn ei swydd ond ei fod "yn haeddu gadael gydag urddas".

Mae dyfalu na fydd arweinydd newydd yn cael ei ethol tan ddiwedd yr haf neu ddechrau hydref.

Oherwydd hyn mae nifer o Geidwadwyr wedi galw ar Mr Johnson i adael ar unwaith.

Fe wnaeth Ms Jones ymddiswyddo fel aelod o'r llywodraeth ddydd Iau, gan ddweud "bod yna erydiad dwfn o ymddiriedaeth a gwedduster wrth galon y llywodraeth".

Mewn fideo byw ar Facebook ddydd Gwener dywedodd: "Rwy'n credu fod y prif weinidog yn haeddu gadael gydag urddas.

"Rwy'n credu ei fod wedi arwain y wlad yn dda o safbwynt y pandemig, dosbarthiad y brechlyn a chwblhau Brexit."

Gan gyfeirio at lwyddiant Mr Johnson wrth ddenu pleidleiswyr dywedodd: "Rwy'n gwybod bod rhai pobl wedi pleidleisio i Boris a dwi'n deall yn iawn pam fod pobl yn flin ar hyn o bryd.

"Ond roedd yn rhaid edrych ar beth oedd yn digwydd yn ehangach ac ar y difrod oedd yn cael ei wneud i'r blaid Geidwadol gan brif weinidog nad oedd yn deall difrifoldeb y sefyllfa."

Un Ceidwadwr sydd am weld Mr Johnson yn gadael cyn gynted a phosib yw llywydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies.

Dywedodd cyn-AS Gwyr ei fod wedi siarad gyda rhai aelodau seneddol oedd y teimlo yn "anghyfforddus" o gael Mr Johnson yn parhau fel prif weinidog.

Disgrifiodd y prif weinidog fel person oedd yn ymddwyn mewn modd afresymol.

"Roedd yr ysgrifen ar y mur ac roedd hi'n amser i Boris Johnson i fynd," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl fod Boris Johnson yn gallu ennill etholiad arall - does ond rhaid edrych ar beth ddigwyddodd yn yr isetholiadau."