Angen i 10% o dir ffermwyr gael ei orchuddio a choed

Bydd yn rhaid i ffermwyr Cymru sicrhau bod o leiaf 10% o'u tir wedi'i orchuddio a choed er mwyn elwa o gyllid cyhoeddus yn y dyfodol.

Angen i 10% o dir ffermwyr gael ei orchuddio a choed

Bydd yn rhaid i ffermwyr Cymru sicrhau bod o leiaf 10% o'u tir wedi'i orchuddio a choed er mwyn elwa o gyllid cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae creu pyllau dwr a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt yn ofynion hefyd fel rhan o gynllun cymhorthdal newydd.

Yn ol Llywodraeth Cymru gall ffermwyr ennill "incwm teg a sefydlog" tra'n cyfrannu at welliannau "sylweddol" o ran bioamrywiaeth.

Mae'r undebau amaeth yn dweud y byddan nhw'n craffu ar y manylion i weld a ydy'r cynllun yn ymarferol.

Mae'r cynllun cymhorthdal newydd i Gymru yn disodli'r taliadau amaeth o Ewrop yn sgil Brexit, a bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol o 2025 ymlaen.

Mewn adroddiad 70 tudalen o hyd, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi diweddariad o ran eu cynlluniau - gan egluro'n fanylach nag o'r blaen sut bydd y cyfan yn gweithio.

Bydd gofyn i ffermwyr ymrwymo i gyfres o "gamau gweithredu" er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliad mwyaf sylfaenol.

Mae'r rhain yn cynnwys casglu a nodi data ar ddefnyddio plaladdwyr ar eu caeau a gwrthfiotigau ar eu da byw, yn ogystal a sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o fesurau bioddiogelwch ar waith i atal clefydau rhag lledaenu.

Ond bydd hefyd angen sicrhau bod coed wedi'u plannu ar 10% o'u tir, a bod 10% ymhellach yn cael ei reoli er mwyn cynnal a gwella cynefinoedd natur.

Os oes gan ffermwyr ardaloedd o goetir brasddeiliog ar eu tir yn barod, yna fe fydd y rhain yn cyfri' tuag at y gofynion o ran gorchudd coed a chynefinoedd.

Yna byddai modd ychwanegu "camau dewisol" at eu cytundebau cymhorthdal ar gyfer cyllid ychwanegol.

Byddai hyn yn cynnwys gwaith mwy uchelgeisiol sy'n dibynnu ar amodau lleol - fel cyllid ar gyfer adfer mawndiroedd neu symud at ddefnyddio rhai caeau ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau.

Yn olaf, byddai cyllid ar gyfer "camau cydweithredol" yn caniatau i ffermydd gydweithio ar brosiectau ar raddfa eang, fel gwella ansawdd dwr ar draws ardal afon, neu gysylltu ardaloedd o goetir ar gyfer bywyd gwyllt.

Byddai ffermwyr yn cael cytundeb pum mlynedd gyda'r llywodraeth, a bydden nhw'n monitro ac yn nodi eu canlyniadau a'u hymdrechion eu hunain gan fwyaf, er bod modd cael archwiliad ar hap gan swyddogion.

Yn hollbwysig, nid yw cyfraddau'r taliadau wedi'u cyhoeddi eto, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hyn yn "siomedig" i ffermwyr.

Dywedodd gweinidogion eu bod yn aros am ddadansoddiad economaidd a strwythurol o'r cynllun.

Y bwriad yw cynnal trydydd ymgynghoriad terfynol y flwyddyn nesaf unwaith y bydd y manylion llawn ar gael.

Bydd "taliadau sefydlogrwydd", sy'n seiliedig ar yr hen gymorthdaliadau, yn parhau tan ddiwedd y cyfnod pontio yn 2029, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru.

Roedd cyllid o'r Undeb Ewropeaidd gwerth tua PS337m y flwyddyn i ffermwyr Cymru - gyda'r mwyafrif helaeth o ffermwyr yn dibynnu ar y taliadau i oroesi.

Ond dywedodd y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths wrth BBC Cymru bod angen i'r sector fod yn "realistig" a "pharatoi ar gyfer gostyngiadau posib" yng nghanol ffrae barhaus rhwng llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig dros y gyllideb ar gyfer ffermio yn y dyfodol.

Ar ei fferm ddefaid uwchben pentref Hendreforgan ar y ffin rhwng Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont, dywedodd Russell Edwards fod cymorthdaliadau wedi bod yn "achubiaeth".

"Fydden ni ddim yn goroesi heb gymhorthdal o ryw siap," meddai, er gwaethaf ymdrechion i arallgyfeirio gyda maes gwersylla a lleoliad priodas.

Ychwanegodd y gallai'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig "fod yn dda iawn".

"Ond dydw i ddim wedi gweld yr arian fydd ar gael eto, a dyna'r cwestiwn mawr - a fydd digon i wneud y pethau hyn?"

Dywedodd hefyd ei fod eisoes yn "ticio nifer o'r bocsys" ar gyfer y taliad sylfaenol, ond doedd e ddim yn dymuno gorfod plannu mwy o goed ar ei dir.

"Rydyn ni wedi defnyddio lot llai o'n gwrtaith arferol oherwydd y gost eleni ac mae angen pob modfedd o dir arna'i i dyfu glaswellt ar gyfer y ddiadell," meddai.

Dywedodd Dylan Morgan, pennaeth polisi undeb NFU Cymru, bod system fyddai'n gwobrwyo ffermwyr a thaliad blynyddol am gwblhau cyfres o gamau cyffredinol yn "gam mawr ymlaen" ac yn "llawer llai biwrocrataidd" na chynigion blaenorol y llywodraeth.

"Beth sy'n rhaid i ni wneud nawr yw edrych ar y camau gweithredu yma a gweld a ydyn nhw'n ymarferol ac yn bosib ar gyfer holl ffermydd Cymru," meddai.

Fe fyddai pryder penodol ynglyn a'r gofynion plannu coed, meddai, gan ychwanegu na fyddai'n bosib cyrraedd y nod ar "nifer o ffermydd yng Nghymru - yn enwedig ar hyd yr arfordir neu ar dir uchel".

Mae dros 80% o dirwedd Cymru yng ngofal ffermwyr - dyna pam mae Llywodraeth Cymru'n eu hystyried yn allweddol wrth ymateb i fygythiadau newid hinsawdd a'r colledion ym myd natur.

Ond maen nhw'n pwysleisio nad ydyn nhw am weld newidiadau eang o ran defnydd tir a fyddai'n disodli amaethwyr.

Dywedodd Rhian Brewster, pennaeth cyfathrebu elusen WWF Cymru bod angen "symud yn gynt" oherwydd difrifoldeb sefyllfa byd natur.

"Mae 'na gyfyngiad amser ar yr hyn 'dan ni angen i gael ei weithredu, felly bydden ni eisiau i bethau symud yn llawer cynt a gweld bod digon o arian yn cael ei roi tu ol i'r cynlluniau i'w gweithredu nhw yn iawn," meddai.

Yn ol Lesley Griffiths mae am "gadw ffermwyr ar y tir" yn tyfu bwyd, tra'n helpu i ddiogelu'r amgylchedd.

"Mae'n ymwneud a chydbwysedd - y bygythiadau mwyaf i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yw'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n un agenda," meddai.