Chris Gunter yn arwyddo cytundeb blwyddyn yn AFC Wimbledon

Mae amddiffynnwr Cymru Chris Gunter wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gydag AFC Wimbledon ar ol i'w gytundeb gyda Charlton Athletic ddod i ben.

Chris Gunter yn arwyddo cytundeb blwyddyn yn AFC Wimbledon

Mae amddiffynnwr Cymru Chris Gunter wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gydag AFC Wimbledon ar ol i'w gytundeb gyda Charlton Athletic ddod i ben.

Gunter, 32, oedd y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau rhyngwladol i Gymru y llynedd, ac ef sy'n dal ar y brig o ran y nifer fwyaf o gapiau, gyda 109.

Bydd Gunter nawr yn gobeithio creu argraff gyda'r clwb yn Adran Un er mwyn sicrhau ei le yng ngharfan Robert Page ar gyfer Cwpan y Byd fis Tachwedd.

Dywedodd ei fod yn "gyffrous" am symud i AFC Wimbledon.

"Rwy'n gwybod beth yw'r nod i ni y tymor yma a gobeithio y gallwn ni gyflawni hynny," meddai.