Joe Allen yn ailymuno ag Abertawe o Stoke

Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen wedi ailymuno a Chlwb Pel-droed Abertawe ar gytundeb dwy flynedd.

Joe Allen yn ailymuno ag Abertawe o Stoke

Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen wedi ailymuno a Chlwb Pel-droed Abertawe ar gytundeb dwy flynedd.

Roedd Allen, 32, yn rhydd i chwilio am glwb newydd ar ol gadael Stoke City, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth, wedi chwe blynedd.

Mae hi'n 10 mlynedd ers i Allen, 32, adael Abertawe - ei glwb ers iddo ymuno a'i academi pan yn fachgen - wedi 150 o gemau i'r tim cyntaf i ymuno a Lerpwl am ffi o PS15m.

Bydd yn llenwi bwlch yng nghanol cae wedi i Flynn Downes ymuno a West Ham.

Roedd hyfforddwr Abertawe, Russell Martin wedi mynegi awydd i ddenu Allen ar ddiwedd y tymor diwethaf, ond roedd perchnogion y clwb yn anfodlon cymeradwyo cytundeb nes bod chwaraewyr wedi gadael y clwb.