Boris Johnson yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr

Mae Boris Johnson wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr, ond mae'n bwriadu aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.

Boris Johnson yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr

Mae Boris Johnson wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr, ond mae'n bwriadu aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.

Daw hyn ar ol i ddegau o ASau adael eu swyddi yn y llywodraeth, ac mae nifer yn galw arno i adael yn syth.

Pwyllgor meinciau cefn 1922 y blaid fydd yn penderfynu ar yr amserlen ac mae rhai ASau am i'r broses gael ei chyflymu fel nad yw'n dal yn ei swydd tan yr hydref.

Dywedodd Mr Johnson y tu allan i Rif 10: "Mae'n amlwg bellach mai ewyllys y Blaid Geidwadol seneddol yw y dylid cael arweinydd newydd i'r blaid ac felly prif weinidog newydd."

Mewn gwleidyddiaeth, meddai, nid oes unrhyw un yn "anhepgor".

Ychwanegodd y "bydd ein system wych a Darwinaidd yn cynhyrchu arweinydd arall", ac y bydd yn rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gall i'r arweinydd newydd.

Mae Mr Johnson yn gwrthod y syniad o gynnal etholiad cyffredinol "pan rydyn ni'n cyflawni cymaint a mandad mor helaeth, pan fo'r sefyllfa economaidd mor anodd yn ddomestig ac yn rhyngwladol".

"Rwy'n difaru peidio a bod yn llwyddiannus mewn dadleuon ac mae'n boenus peidio a pharhau gyda chymaint o syniadau a phrosiectau."

"Yn anad dim, rydw i eisiau diolch i chi, y cyhoedd ym Mhrydain, am y fraint aruthrol rydych chi wedi'i rhoi i mi," meddai.

Fe wnaeth y prif weinidog orffen ei ddatganiad trwy ddweud y bydd buddiannau'r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu hyd nes bydd olynydd yn ei le.

"Hyd yn oed os gall pethau ymddangos yn dywyll weithiau, mae ein dyfodol gyda'n gilydd yn euraidd," meddai Mr Johnson.

Bydd ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn cael ei chynnal yr haf hwn a bydd prif weinidog newydd erbyn cynhadledd y blaid ym mis Hydref.

Yn wreiddiol roedd wedi addo "dal ati" er gwaethaf ton o ymddiswyddiadau, ond mae bellach wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi.

Brynhawn Iau, dywedodd Boris Johnson wrth ei gabinet newydd "nid fy lle i yw newid cyfeiriad yn fawr" yn ei amser sy'n weddill yn y swydd.

Dywedodd y prif weinidog wrth ei uwch weinidogion, "dydw i ddim yn disgwyl y byddwch chi'n cael eich gwthio gan Rif 10 i wneud polisiau newydd radical neu ryfedd".

Ond ychwanegodd nad oedd "unrhyw esgus i dynnu'ch troed oddi ar y pedal".

Dadansoddiad Catrin Haf Jones, ein gohebydd gwleidyddol

Cyn y datganiad gan Boris Johnson o'dd na lif o wynebau Ceidwadol yn dod yma i roi eu barn - neb yn ganmoliaethus iawn o flaen y camerau yma yn sicr.

Ers hynny, mae 'na gwestiynau ynglyn a'r amseru yn bendant, Boris Johnson yn dweud yn ei araith y bydd amserlen yn cael ei gosod yr wythnos nesaf.

Ond mae 'na ofid gan nifer fawr o Geidwadwyr bod Boris Johnson yn mynd i fod yn Rhif 10 am gyfnod hir eto os yw hyn yn parhau i mewn i'r tymor seneddol nesaf yn yr Hydref.

Mae 'na gymaint o ddrwgdeimlad i gael nawr rhwng y blaid yn San Steffan a'r prif Geidwadwr yn Rhif 10.

Felly mae'r berthynas yna'n mynd i fod mor anodd.

Ond pwy fydde moyn y swydd o drio uno'r blaid Geidwadol ar ol y cyfnod sy' 'di bod ohoni?

Mae'r rhestr yn adlewyrchu'r rhaniadau amlwg sydd yn y blaid ar hyn o bryd, mae Brexitwyr adain dde fel Steve Barclay, ond wedyn mae pobl fwy tua'r canol - Jeremy Hunt, Sajid Javid - mae disgwyl y bydd y math yna o bobl yn taflu eu henwau mewn.

Ond mae 'na Geidwadwyr sy'n poeni'n ddifrifol bod y cyfnod helbulus yma i'r Ceidwadwyr yn golygu bod rhaid cydnabod ei bod hi am fod yn dalcen caled i'r blaid yn yr etholiad nesaf.

Fe'i hanogwyd i ymddiswyddo gan uwch aelodau o'i gabinet, gan gynnwys y canghellor sydd newydd ei benodi, Nadhim Zahawi.

Mewn llythyr yn galw arno i fynd, dywedodd Mr Zahawi, gafodd y swydd lai na 48 awr yn ol, ei fod wedi "gwneud yn glir i'r prif weinidog" y dylai "adael gydag urddas".

Dywed golygydd gwleidyddol y BBC, Chris Mason, fod Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922 ASau Toriaidd meinciau cefn, wedi cyfarfod a'r prif weinidog i ddweud wrtho ei fod wedi colli hyder y blaid.

Roedd sawl aelod o'r cabinet wedi ymddiswyddo yn sgil ffrae am yr hyn roedd Mr Johnson yn ei wybod am honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, a thros 50 o ymddiswyddiadau eraill o'r llywodraeth.

Cafodd Mr Pincher ei wahardd fel AS Ceidwadol yr wythnos ddiwethaf yn dilyn honiadau o gamymddwyn yn rhywiol.

Roedd Mr Johnson wedi cael gwybod am honiad arall yn erbyn Mr Pincher yn 2019, ond fis Chwefror eleni cafodd ei benodi yn ddirprwy brif chwip y blaid.

Ychydig funudau cyn i Mr Sunak a Mr Javid ymddiswyddo ddydd Mawrth, roedd Mr Johnson wedi cyfaddef ei fod yn "gamgymeriad" penodi Mr Pincher i'r rol.

Ers hynny cafwyd degau o ymddiswyddiadau, gan gynnwys rhai aelodau o Gymru, ac aeth grwp o ASau Ceidwadol blaenllaw i annog Mr Johnson i gamu lawr.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: "Mae cael llywodraeth sefydlog i'r Deyrnas Unedig yn angenrheidiol i bob un o'r pedair gwlad.

"Rwy'n falch o weld bod y prif weinidog wedi gwneud y peth iawn drwy gytuno i ymddiswyddo."

Yn ddiweddarach ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn "ddiwedd anochel i brif weinidogaeth ddiffygiol Boris Johnson", ond "nid yw'r busnes ar ben".

"Mae angen i'r prif weinidog fynd nawr, ac mae angen dechrau o'r newydd, llechen lan, o ddewis trwy etholiad cyffredinol, er mwyn i ni gael y math o lywodraeth weddus, ddibynadwy sy'n gallu canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf mewn bywydau beunyddiol pobl.

"Rydym wedi bod heb lywodraeth yn San Steffan nawr ers misoedd, gan fod y Blaid Geidwadol wedi troi i mewn ar ei hun."

Ychwanegodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, ei fod yn "newyddion da" bod Mr Johnson yn ymddiswyddo ond "does dim angen i ni newid y Toriaid ar y brig - mae angen newid llywodraeth".

Meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Dwi wastad wedi dweud ei bod hi'n hanfodol i'r prif weinidog ddal hyder ein gwlad, plaid a senedd. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir bellach.

"Etifeddiaeth Boris Johnson bob amser fydd iddo gyflawni Brexit, ewyllys pobl Prydain.

"Yn ogystal a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn 2019, sicrhaodd Boris ein bod yn dychwelyd i ryddid allan o bandemig Covid-19. Yn anffodus, mae bellach wedi dod yn anodd iawn iddo gyflawni'r mandad a sicrhaodd.

"Fel ffrind a chefnogwr i'r prif weinidog, rwy'n cydnabod ei gyflawniadau dros y tair blynedd diwethaf. Cyfrifoldeb y Blaid Geidwadol yn awr yw dewis arweinydd newydd i gyflawni ein hymrwymiadau maniffesto ar gyfer gweddill y senedd hon."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mewn datganiad ar y cyd: "mae Cymru'n haeddu cymaint gwell, ac mae gennym ddyletswydd i'w fynnu.

"Mae'r seicodrama Geidwadol ddiweddaraf hon yn amlygu'r hyn mae llawer ohonom eisoes yn ei wybod - mae Prydain yn wladwriaeth ffaeledig... Rhaid i ni ymdrechu eto o'r newydd i gryfhau ein democratiaeth ein hunain, i'r gwrthwyneb llwyr i'r syrcas yma yn San Steffan."

Yr helynt ynghylch Mr Pincher oedd penllanw misoedd o anfodlonrwydd ymhlith ASau Ceidwadol yn dilyn cyfres o adroddiadau am bartion anghyfreithlon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo.

Ar ddiwedd 2021 daeth lluniau i'r amlwg o Boris Johnson ac aelodau staff Rhif 10 wedi casglu yn yr ardd ym mis Mai 2020 - lluniau roedd nifer yn credu oedd yn eu dangos yn torri rheolau Covid-19 y llywodraeth, ond roedd Mr Johnson yn mynnu mai "digwyddiad gwaith" oedd hwn.

Wedi hynny daeth lluniau eraill i'r amlwg o ddigwyddiadau eraill yn Rhif 10, a llu o honiadau am ragor o bartion oedd wedi'u cynnal yno yn ystod y pandemig - gan gynnwys un ar ben-blwydd Mr Johnson.

Daeth yr honiad cryfaf gan gyn-brif ymgynghorydd y prif weinidog, Dominic Cummings, a ddywedodd fod Mr Johnson wedi cael rhybudd y byddai cynnal parti ar 20 Mai 2020 yn mynd yn groes i reoliadau coronafeirws.

Roedd y prif weinidog wedi cyfaddef yn Nhy'r Cyffredin ei fod wedi mynychu, ond yn mynnu ei fod yn credu mai i wneud a gwaith oedd y digwyddiad.

Ond yn dilyn honiadau Mr Cummings daeth awgrym fod Mr Johnson wedi dweud celwydd wrth Dy'r Cyffredin, wnaeth arwain at nifer o ASau Ceidwadol i droi yn erbyn y prif weinidog.