Dewis Hanan Issa i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Hanan Issa fydd yn olynu Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Dewis Hanan Issa i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Hanan Issa fydd yn olynu Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Mae Ms Issa yn dod o gefndir Cymreig ac Iracaidd, ac yn ogystal a barddoniaeth mae hi'n artist ac yn gwneud ffilmiau.

Ms Issa fydd y pumed bardd cenedlaethol ers i'r rol gael ei sefydlu yn 2005, gan olynu Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis.

Cafodd ei dewis gan banel o arbenigwyr, oedd yn cynnwys cyn-Fardd Plant Cymru Casia Wiliam, a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol Ashok Ahir.

Fe fydd Ms Issa yn y rol am gyfnod o dair blynedd, fydd yn dechrau'r haf hwn.

"Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad hon," meddai Ms Issa.

"Rydw i eisiau i bobl gydnabod Cymru fel gwlad sy'n llawn dop gyda chreadigrwydd; gwlad beirdd a chantorion sydd a chymaint i'w gynnig i'r celfyddydau.

"Rydw i eisiau parhau a gwaith gwych fy rhagflaenwyr, gan hyrwyddo Cymru a'r iaith Gymraeg tu hwnt i'n ffiniau.

"Yn fwy na dim rydw i eisiau ennyn diddordeb ac ysbrydoliaeth y cyhoedd fel eu bod nhw yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth Gymreig ac annog synnwyr llawer ehangach o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn Gymry."

Ychwanegodd, er nad yw'n siarad Cymraeg, ei bod yn dysgu am y gynghanedd, a'i bod yn awyddus i arbrofi gyda'r gynghanedd mewn barddoniaeth Saesneg.

Dywedodd ei bod yn gobeithio y gallai hynny fod yn "bont rhwng y Gymraeg a'r Saesneg" ac "annog mwy i ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg".