Llofruddiaeth Logan Mwangi: Beth ddylai ddigwydd i blant sy'n llofruddio?

Mae angen "shifft llwyr" yn y ffordd mae delio a phlant sy'n llofruddio, yn ol ymgyrchydd yn y maes cyfiawnder ieuenctid.

Llofruddiaeth Logan Mwangi: Beth ddylai ddigwydd i blant sy'n llofruddio?

Mae angen "shifft llwyr" yn y ffordd mae delio a phlant sy'n llofruddio, yn ol ymgyrchydd yn y maes cyfiawnder ieuenctid.

Mae'n dilyn y penderfyniad i ddedfrydu bachgen 14 oed a dau oedolyn i oes o garchar am lofruddio'r plentyn pump oed, Logan Mwangi.

Yn siarad gyda'r BBC, dywedodd Dr Tim Bateman ei fod eisiau tymhorau byrrach, cadw ieuenctid mewn sefydliadau gofal plant diogel a chodi'r oedran cyfrifoldeb troseddol i 16.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei fod wedi ymrwymo i dreialu ysgolion diogel fel model newydd o gadw ieuenctid yn y ddalfa.

Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd gan Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a Craig Mulligan, 14.

Cafodd Mulligan ei enwi am y tro cyntaf wedi'r ddedfryd yn dilyn her gyfreithiol yn y llys, a bydd yn treulio o leiaf 15 mlynedd o dan glo.

Roedd corff Logan wedi ei roi mewn bag cyn i Cole ei gario a'i adael yn Afon Ogwr gyda Mulligan.

Pan gafodd corff Logan ei ddarganfod ger ei gartref yn Sarn, roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol i'w abdomen.

Ond mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd, fyddai Mulligan ddim wedi dod i'r llys o gwbl oherwydd byddai ei oedran yn ei atal rhag cael ei erlyn am unrhyw drosedd, meddai Dr Tim Bateman, cadeirydd y Gymdeithas Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae'r oedran y mae plant yn cael eu hystyried yn gyfrifol am eu gweithredoedd yn y gyfraith yn amrywio ar draws Ewrop - o 10 yng Nghymru a Lloegr i 14 yn yr Almaen, 15 yn yr Iseldiroedd ac 16 ym Mhortiwgal.

Y llofruddion ieuengaf i'w canfod yn euog yn hanes modern Prydain yw Jon Venables a Robert Thompson, y plant 10 oed a gipiodd ac yna arteithio a llofruddio'r bachgen dyflwydd oed, James Bulger yn 1993.

Cawson eu carcharu am oes ond fe gawson nhw eu rhyddhau ar drwydded o dan enwau newydd yn 2001.

Wrth gofio'r dicter cyhoeddus yn sgil llofruddiaeth James, dywedodd Lawrence Lee, y cyfreithiwr a gynrychiolodd Venables, y byddai'r golygfeydd y tu allan i'r llys, lle'r oedd pobl yn taflu brics at fan y carchar, yn "byw gyda mi am byth".

Pan gafodd ei holi a oedd e'n credu y dylai plant gael eu dal yn gyfrifol am droseddau fel llofruddiaeth, atebodd: "Ydw, rwy'n meddwl, y dyddiau hyn, mwy a mwy...

"Mae plant nawr yn llawer mwy ymwybodol, maen nhw mor ymwybodol o'u hawliau... mae llawer o blant yn gallu cuddio'n bwrpasol y tu ol i'r llen o anhysbysrwydd, oherwydd maen nhw'n gwybod nad ydyn nhw'n mynd i gael eu henwi."

Mae'n credu ei fod yn gywir i roi plant ar brawf yn y llys.

"Does dim ffordd y gall y diffynyddion hyn fynd yn rhydd ac mae'n rhaid eu cosbi, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu haddysgu hefyd os yw hynny'n bosib," meddai.

Dywedodd Dr Bateman ei fod am weld "newid llwyr yn y ffordd yr ydym yn delio a phlant sy'n cyflawni llofruddiaeth", gan gynnwys eu rhyddhau "pan mae digon o gyfle o hyd iddyn nhw drosglwyddo i fod yn oedolion mewn amgylchedd cymharol normal".

Ychwanegodd: "Ni yw un o'r ychydig wledydd yn Ewrop sydd a dedfryd oes awtomatig i blant sy'n cyflawni llofruddiaeth."

Ond mae gan Lawrence Lee ffydd yn y system bresennol: "[Fe ddylen ni] ymddiried yn y bwrdd parol na fyddan nhw'n rhyddhau'r plentyn hwnnw nes eu bod nhw'n ffit i ddychwelyd i gymdeithas," meddai.

"Gallai fod canlyniadau difrifol os ydyn nhw'n cael eu rhyddhau'n rhy gynnar a'u bod nhw'n aildroseddu."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Er mai barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau, rydym wedi newid y gyfraith ar gyfer plant sy'n cyflawni llofruddiaeth fel bod gan farnwyr ystod o fannau cychwyn sy'n cyfrif am oedran y plentyn a difrifoldeb y y llofruddiaeth."

Mae tua 75% o blant sy'n cael eu carcharu yn mynd i sefydliadau troseddwyr ifanc sy'n "debyg iawn, iawn i garchardai oedolion", meddai Dr Bateman.

Mae nifer llai yn mynd i ganolfannau hyfforddi diogel sy'n cael eu rheoli'n breifat ac eraill yn mynd i gartrefi plant diogel.

Mae Dr Bateman am weld diwedd ar sefydliadau troseddwyr ifanc a phob plentyn sy'n derbyn dedfryd o garchar yn cael eu cadw mewn sefydliadau gofal plant.

"Mae yna lefelau uwch o staffio, mae cefnogaeth yn llawer mwy trylwyr, mae yna gyfleoedd ar gyfer ymyriadau therapiwtig, y gallu i weithio gyda'r plentyn tuag at ei ryddhau, ei ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant a chynyddu'n aruthrol y rhagolygon ar ei gyfer yn ddiweddarach mewn bywyd," meddai.

Ond dywedodd Lawrence Lee bod yn rhaid i ba bynnag fath o gyfleuster y mae plentyn yn cael ei gadw ynddo gael "addysg briodol, magwraeth briodol, fel bod y siawns o gael ei ddychwelyd i gymdeithas mewn cyflwr heini yn gwella yn y pen draw".

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ry'n ni wedi ymrwymo i dreialu ysgolion diogel fel model newydd o ddalfeydd ieuenctid sy'n gwreiddio addysg ac iechyd wrth ei galon i leihau aildroseddu."

Yn achos llofruddiaeth Logan Mwangi, rhoddodd y Barnwr Mrs Ustus Jefford gyfyngiad oedd yn golygu nad oedd hi'n bosib datgelu enw'r diffynnydd 14 oed.

Ond cafodd y cyfyngiadau eu herio gan y cyfryngau wrth ddedfrydu, a chododd y barnwr y gorchymyn, gan olygu ddydd Iau y gallai gael ei adnabod am y tro cyntaf fel Mulligan.

Yn achos llys Venables a Thompson, cododd y barnwr gyfyngiadau tebyg, gan ddweud: "Roedd budd y cyhoedd yn drech na budd y diffynyddion."

Yn 2001, cafodd hunaniaeth newydd ac anhysbysrwydd gydol oes ei roi iddyn nhw, gyda gorchymyn llys yn gwahardd unrhyw un rhag datgelu eu hunaniaeth newydd.

Ond dywedodd Dr Bateman fod y drefn hon allan o'r norm rhyngwladol, gan gredu y gallai hyn annog rhai i ddial yn erbyn y diffynnydd, ond hefyd eu brodyr a chwiorydd a'r gymuned ehangach.

Dywedodd y gallai hefyd fod yn niweidiol i adsefydlu'r diffynnydd.

"Os ydyn nhw'n deffro ac yn gweld eu llun ar y teledu, ar dudalen flaen y papur newydd fel llofrudd bydd hynny'n cael effaith sylweddol ar eu datblygiad, y ffordd maen nhw gweld eu hunain, yn fy marn i, yn debygol o gynyddu'r risg y byddan nhw yn parhau i fod yn berygl i eraill."

Dywedodd y byddai hefyd yn cael effaith negyddol arnyn nhw ar ol cael eu rhyddhau: "Bydd cyflogwyr yn llawer llai tebygol o gynnig cyfleoedd i blant sydd wedi bod ar hyd tudalennau blaen y papurau newydd, bydd colegau yn llawer llai tebygol o gynnig lleoedd i'r fath blant."

Dywedodd Lawrence Lee ei fod yn gweld y ddwy ochr i'r mater: "Byddai gennyf amheuon difrifol am enwi ond ar y llaw arall, byddai gennyf amheuon difrifol ynghylch aros yn ddienw...

"Roeddwn i'n gallu deall barnwr yn dweud 'iawn, wel gadewch i ni eu henwi ac os gallwn ni achub bywyd athro, os gallwch chi achub bywyd unrhyw ddioddefwr, mae'n werth yr ymdrech'.

"Ar y llaw arall, fe fyddan nhw'n meddwl 'wel, os ydw i'n enwi, mae e'n mynd i fod yn darged dial'."

Dywedodd Dr Bateman y byddai'n anodd i Mulligan fyw bywyd normal.

"Bydd yn anodd dod i oed, i bontio i fod yn oedolyn mewn sefydliad gwarchodol a pheidio a threulio'ch amser, fel y mae'r rhan fwyaf o lencyndod yn ei wneud, yn dysgu sut i ddelio a'r byd ehangach, yn dysgu sut i fod yn oedolyn."

Mae Lawrence Lee yn fwy optimistaidd: "Mae'n dibynnu a ydyn nhw'n cael eu brandio'n ddrwg ai peidio," meddai.

Dywedodd y byddai gwibdeithiau y tu allan i'r carchar yn hanfodol tuag at ddiwedd ei ddedfryd: "Os yw'n cael ei gadw yn y ddalfa am 10 mlynedd, oni bai ei fod yn cael y cyfle i drochi ei draed i fywyd bob dydd go iawn, rwy'n meddwl bod ei siawns o fod yn normal eto yn fain iawn."