Rhoi hawl i gynghorau reoli niferoedd ail gartrefi

Bydd gan gynghorau Cymru y pwer i reoli niferoedd ail gartrefi a thai gwyliau yn sgil cynlluniau newydd gan y llywodraeth.

Rhoi hawl i gynghorau reoli niferoedd ail gartrefi

Bydd gan gynghorau Cymru y pwer i reoli niferoedd ail gartrefi a thai gwyliau yn sgil cynlluniau newydd gan y llywodraeth.

Mae strategaeth drwyddedu ar gyfer pobl sydd eisiau rhedeg tai gwyliau byr-dymor hefyd ar y gweill.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi gan y prif weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y blaid a Llafur Cymru.

Ond mae un grwp sy'n cynrychioli'r sector twristiaeth wedi dweud bod y cyhoeddiad yn ergyd arall i'r diwydiant.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd newidiadau i reolau cynllunio yn cael eu cyflwyno cyn diwedd yr haf.

Fe ddywedon hefyd y byddan nhw yn cyflwyno tri dosbarth newydd o eiddo yn y system gynllunio, sef: prif gartref, ail dy a llety gwyliau byr-dymor.

Bydd awdurdodau lleol, "lle bo tystiolaeth", wedyn yn gallu cyflwyno addasiadau i'r systemau cynllunio i'w gwneud yn ofynnol i gael caniatad cynllunio i newid defnydd ty o naill ddosbarth i'r llall.

Mae awdurdodau lleol eisoes wedi derbyn yr hawl i gynyddu treth cyngor ar ail gartrefi gan 300% o'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Drakeford bod twristiaeth yn "allweddol" i economi Cymru ond bod cael "gormod" o lety gwyliau ac ail dai sy'n wag yn ystod rhan helaeth y flwyddyn "ddim yn creu cymunedau lleol iach".

Ychwanegodd bod hynny yn "prisio pobl allan o'u marchnadoedd tai lleol".

Dan y system newydd, bydd awdurdodau lleol yn "gallu penderfynu gosod cyfyngiadau", dywedodd Mr Price.

Ychwanegodd bod "cynnydd aruthrol" wedi bod mewn tai gwyliau ac y bydd y strategaeth drwyddedu yn "helpu i reoli'r system dai gan ei gwneud hi'n decach i ddarparwyr llety twristiaeth".

Fe gofnodwyd bod 24,873 o ail dai wedi eu cofrestru yng Nghymru ar ddechrau 2021.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau ar system fydd yn caniatau cynghorau i osod treth tir uwch ar bryniant ail gartrefi a llety gwyliau.

Fel rhan o'r ymdrech i "helpu pobl leol" i brynu tai, dywedodd y prif weinidog bod y llywodraeth yn "ymchwilio i'r posibilrwydd" o ail-gyflwyno morgeisi awdurdod lleol, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf.

Dywedodd Mr Drakeford: "Yn yr argyfwng costau byw hwn, byddai cefnogaeth gan yr awdurdod lleol yn helpu pobl i gael mynediad i forgeisi gyda blaen-daliadau llai."

Wrth i BBC Cymru holi pobl yn nhref Pwllheli, dywedodd Ann Williams bod aelodau o'i theulu'n ei chael yn anodd i ddod o hyd i dy.

"Mae o'n broblem mawr ofnadwy - dw i'n gwybod bod teulu methu cael tai o gwbl yma'n lleol, so mae o yn broblem mawr, a phoeni am y dyfodol hefyd i blant," meddai.

Dywedodd bod angen mynd gam ymhellach i warchod cymunedau lleol.

"Dwi'n meddwl bod nhw angen 'neud mwy i ddweud y gwir i gefnogi y lleol."

"Dwi'n cytuno efo nhw [y cynllun newydd] yn hollol, mae'n bwysig iawn i'r cymuned dwi'n meddwl," dywedodd Louise Kemp sy'n byw ger Pwllheli.

"Dydyn nhw [pobl ifanc] ddim yn medru fforddio y tai - dyw hi ddim yn iawn."

Ond, mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, bod angen i'r llywodraeth gydnabod cymaint y mae "busnesau twristiaeth go iawn" yn cyfrannu i gymunedau.

"Mae busnesau llety gwyliau'n cael eu rhedeg yn broffesiynol, yn aml gan berchnogion lleol sy'n cyflogi pobl leol, yn darparu cyfleoedd i fusnesau lleol ac yn talu premiwm busnes ar gyfer pethau fel casglu sbwriel,," dywedodd.

"Fodd bynnag, ar draws Cymru gyfan, maen nhw'n barod wedi'u dal gan bolisi Llywodraeth Cymru i reoli'r broblem o gynnydd mewn ail gartrefi mewn rhai cymunedau penodol."

Ychwanegodd bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yr un mor awyddus a'r llywodraeth a Phlaid Cymru i weld economi lwyddiannus ond bod pob cyhoeddiad yn "dod fel ergyd i hyder y diwydiant" ac nad yw eu "profiad, arbenigedd a bywoliaeth" yn cael unrhyw sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands, bod "cyfleoedd a chyfrifoldeb" i awdurdodau lleol i'w groesawu ond bod "pryder" hefyd am gyllido.