Safonau'n 'fater o bryder' dan Boris Johnson

Mae safonau o fewn bywyd cyhoeddus wedi bod "yn wir broblem" yn ystod arweinyddiaeth Boris Johnson, yn ol yr AS sydd newydd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru.

Safonau'n 'fater o bryder' dan Boris Johnson

Mae safonau o fewn bywyd cyhoeddus wedi bod "yn wir broblem" yn ystod arweinyddiaeth Boris Johnson, yn ol yr AS sydd newydd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Syr Robert Buckland ei fod yn dymuno gweld safonau uwch yn "dychwelyd yn gyflym" dan Brif Weinidog nesaf y DU.

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn dweud bod ganddo "sawl cwestiwn" erioed ynghylch gallu Mr Johnson i arwain.

Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru'n galw am etholiad brys wrth i'r ras ddechrau o ddifri i fod yn arweinydd nesaf y Ceidwadwyr.

Roedd Syr Robert wedi galw am ymddiswyddiad Mr Johnson yn gynharach yn yr wythnos ond fe gytunodd i olynu Simon Hart fel Ysgrifennydd Cymru er mwyn "gwasanaethu'r wlad" yn hytrach nag i "gynnal" y Prif Weinidog.

Pan ofynnwyd wrtho ar raglen BBC Politics Wales a ddirywiodd safonau cyhoeddus dan arweinyddiaeth Mr Johnson, atebodd: "Mae safonau yn sicr wedi bod yn wir fater o bryder a dadl.

"Yn bersonol, rwy'n credu y dylai'r Ceidwadwyr ymgorffori'r safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus.

"Rwy'n meddwl bod rhan o'r traddodiad o fod yn Geidwadol yn ymwneud a pharch at sefydliadau, parch at y swydd a pharch at wrthwynebwyr gwleidyddol, a rwy'n dymuno gweld hynny'n dychwelyd yn gyflym."

Dywed Syr Robert ei fod yn dymuno "perthynas broffesiynol gyda'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Mae'n fwriad ganddo, meddai, "nid i gyhwfan baner Cymru yn unig, ond ceisio denu cyn gymaint o fuddsoddiad a chefnogaeth a phosib".

Wrth i nifer yr ymgeiswyr i olynu Mr Johnson gynyddu, ni wrthododd y posibilrwydd y byddai yntau'n rhoi cynnig arni.

"Wel, pwy a wyr - rwyf wedi dysgu i ddisgwyl yr annisgwyl," dywedodd.

Roedd Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol ac yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau dan David Cameron. Dywedodd yntau wrth y rhaglen na fuodd erioed "yn gredwr mawr" yn Boris Johnson.

"Wnes i ddim ei gefnogi yn yr etholiad [i'w benodi'n arweinydd ar y Blaid Geidwadol] yn 2019 oherwydd roedd gen i gwestiynau mawr ynghylch ei allu i redeg gweinyddiaeth wirioneddol effeithiol.

"Yn amlwg fe enillodd fandad anhygoel yn Etholiad Cyffredinol 2019... oedd yn aruthrol ac yn un o'r pethau a ddaeth a'r blaid ynghyd.

"Ond yr hyn rydym wedi ei gael, dros yr wyth mis diwethaf yn arbennig, yw erydu graddol o'r ffydd a'r ewyllys da yna."

Dywedodd na fu "erioed mor gyffyrddus a hynny" gyda dull "ymosodol" Mr Johnson o lywodraethu.

O ran llunio polisiau, dywedodd ei fod yn "amheus o grynhoi heriau hynod gymhleth ac anodd i sloganau a chynigion syml."

Ychwanegodd AS Preseli Penfro: "Dydw i ddim mo'yn gweld unrhyw un o'r ymgeiswyr Ceidwadol yn mynd mas a cheisio cymryd arnynt bod heriau mawr anodd yn hawdd ac yn bosib i'w datrys gydag ychydig eiriau a sloganau syml.

"Mae angen gwir onestrwydd ynghylch natur yr heriau sy'n wynebu'r wlad.

"Rwyf wir eisiau clywed beth yw eu cynlluniau o ran yr undeb oherwydd ar brydiau dros y blynyddoedd diwethaf, rwy'n meddwl bu ansensitifrwydd at wahanol rannau o'r undeb...

"Rwyf eisiau gweld arweinydd Ceidwadol newydd all fod yn wyneb cymhellgar Llywodraeth y DU yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon."

Dyw Mr Crabb heb benderfynu eto pa ymgeisydd fydd yn ennill ei bleidlais, ond mae AS Maldwyn, Craig Williams wedi datgan ei fod yn cefnogi'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak.

Ymddiswyddodd Mr Williams o'i rol yn y Trysorlys yn gynharach yn yr wythnos.

"Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n ymddiswyddo o'r llywodraeth... yn cyflawni'n fath fradychiad, mewn ffordd i fy mhlaid, ond fe gyrhaeddodd bwynt ble ro'n i'n meddwl bod rhaid i bethau ddod i ben," meddai wrth Politics Wales.

Fe gadarnhaodd Simon Hart brynhawn Sul ei fod yntau hefyd yn cefnogi Mr Sunak gan ddweud taw ef "yn unig sydd a'r profiad, gwerthoedd a gweledigaeth" i olynu Mr Johnson.

Mynegodd llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, Jo Stevens anfodlonrwydd bod Boris Johnson heb adael Downing Street yn syth.

"Pam ddylai'r cyhoedd ei oddef am dri mis arall... pan nad yw'n ffit i fod yn Brif Weinidog?" gofynnodd.

"Pa niwed pellach y mae'n mynd i'w achosi yn y tri mis nesaf?

"Mae'n rhaid iddo fynd nawr, ac mae angen mwy na dim ond newid wrth y llyw - mae angen llywodraeth newydd sbon a dyna pam ry'n ni angen etholiad cyffredinol."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts: "Siawns os yw ASau Ceidwadol wedi gweld y goleuni gyda Boris Johnson ac eisiau iddo fynd, fy ddylai o fynd rwan i wneud yn siwr bod dim o'i ddylanwad niweidiol ar ein Prif Weinidog nesaf.

"Yn arbennig yng Nghymru lle rydym wedi dioddef pwysau gwaethaf toriadau'r Toriaidd, rydan ni wir angen newid llywodraeth rwan achos mae'r llywodraeth Geidwadol wedi rhedeg allan o syniadau ac wedi achos digon o niwed dros y 12 mlynedd diwethaf."