Covid: Cyngor meddyg i 'stopio cofleidio' ac i wisgo mwgwd

Fe ddylai pobl stopio cofleidio'i gilydd a gwisgo mygydau eto yn sgil cynnydd mewn achosion Covid, yn ol un meddyg teulu o Sir Fynwy.

Covid: Cyngor meddyg i 'stopio cofleidio' ac i wisgo mwgwd

Fe ddylai pobl stopio cofleidio'i gilydd a gwisgo mygydau eto yn sgil cynnydd mewn achosion Covid, yn ol un meddyg teulu o Sir Fynwy.

Dywedodd Dr Rowena Christmas "nad yw'n gallu pwysleisio pa mor bryderus" yw cyfraddau Covid ar hyn o bryd.

Yn ol ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), fe brofodd un o bob 30 o bobl Cymru yn bositif am y feirws yn ystod y mis diwethaf.

Daw wrth i holl ysbytai Cymru ddweud y dylai pobl ddychwelyd i wisgo mygydau ar eu safleoedd yn sgil y cynnydd mewn achosion.

Brynhawn Mawrth fe ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, ei bod hi'n bwysig i bobl ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal Covid-19.

Y camau hynny, meddai, ydy cael eich brechu, gwisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig gorlawn a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.

Wrth siarad a Claire Summers ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Dr Rowena Christmas bod angen tynhau rheolau eto.

"Ar hyn o bryd, os allwn ni gael ein mygydau yn ol ymlaen, a dwi ddim eisiau dweud hyn, ond osgoi cofleidio a chusanu unrhyw un sydd ddim yn gysylltiadau agos iawn gymaint ag y gallwn.

"Mae'n glir iawn bod y ffigyrau yn dangos bod [Covid] yn dal i fod gyda ni."

Dywedodd bod ei meddygfa yn Nhrefynwy dan bwysau enfawr.

"Mae gennym aelodau o staff yn sal eto, yn profi'n bositif. Mae gennym ni nifer o gleifion a symptomau a allai'n wir fod yn Covid.

"Mae'r cartref gofal ry'n ni'n edrych ar ei ol wedi cael chwech achos positif er gwaethaf eu holl ymdrechion i warchod pawb."

Ychwanegodd bod "gaeaf anodd" ar y gweill.

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd yr ONS y bu 14 o farwolaethau - gyda Covid yn gysylltiedig a'r farwolaeth - yn yr wythnos ddiweddaraf hyd at 24 Mehefin.

Roedd hynny ddwy yn llai na'r wythnos flaenorol.

Daw a chyfanswm nifer y bobl sydd wedi marw gyda Covid yn gysylltiedig a'r farwolaeth yng Nghymru i 10,419.

Yn y cyfamser, mae holl fyrddau iechyd Cymru wedi dweud y dylai pobl wisgo mygydau mewn ysbytai.

Fe wnaeth rhai y penderfyniad fis diwethaf, ond erbyn hyn, mae defnyddio mygydau'n cael ei annog ym mhob ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gofyn i bobl wisgo mygydau ers cyfnod hir, ond Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yw'r diweddaraf i gyhoeddi'r cyngor.

Mae Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi mynd cam ymhellach trwy atal ymweliadau am y tro.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ne orllewin Cymru eu bod yn annog staff i wneud profion llif unffordd gan adrodd y canlyniadau ddwywaith yr wythnos.

"Ry'n ni wedi gwneud y penderfyniad i ailosod y mesurau hyn yn Ysbyty Llwynhelyg i leihau'r risg i'n cleifion a'n staff," dywedodd Mandy Rayani, cyfarwyddwr nyrsio, safon a phrofiad cleifion.

"Gallwn ni i gyd barhau i gymryd mesurau gwarchodol er mwyn lleihau'r risg o ymlediad Covid-19 er mwyn gwarchod pobl fregus a'r GIG."

Nos Lun, fe ofynnodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i "gadw draw o'u hysbytai" oni bai ei fod yn "gwbl angenrheidiol".

Er na wnaethon nhw grybwyll Covid fel rheswm, dywedon eu bod dan "bwysau aruthrol".

Dywedon bod uned frys Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbran yn "brysur iawn" nos Lun ac y dylai pobl fynd i unedau man anafiadau os nad yw eu salwch neu anaf yn bygwth bywyd.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton: "Nid yw'r pandemig ar ben. Er ein bod yn dysgu byw'n ddiogel gydag o, mae angen i ni feddwl o hyd am gymryd y camau syml i'n helpu ni i gadw'n ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad coronafeirws.

"Mae cyflwyno'r brechlyn yn llwyddiannus wedi lleihau achosion o salwch difrifol yn sylweddol, ond mae'r feirws yn dal i ledaenu'n gyflym yn ein cymunedau.

"Er nad yw'n orfodol mwyach, dylai pobl barhau i wisgo masg mewn lleoliadau iechyd a gofal ac mewn mannau gorlawn dan do, yn ogystal a chofio'r holl gamau syml eraill y gallant eu cymryd i atal y lledaeniad, yn enwedig o amgylch pobl sy'n fwy agored i niwed."

Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth frechu gyda manylion y dos atgyfnerthu nesaf yn yr hydref.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol: "Y brechlyn yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun ac eraill rhag coronafeirws. Er nad yw'r brechlyn yn atal trosglwyddiad yn llwyr, mae'n cynnig amddiffyniad rhag salwch difrifol ac yn lleihau'r risg o fynd i'r ysbyty.

"Mae'r brechlyn yn dal i fod ar gael i chi os nad ydych wedi cael eich cwrs llawn, neu os oeddech yn rhy sal i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn, a byddwn yn annog rhieni i feddwl am fanteisio ar y brechlyn i'w plant dros fisoedd yr haf i helpu i leihau unrhyw darfu ar eu haddysg yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf.

"Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno pigiadau atgyfnerthu'r hydref yng Nghymru.

"Mae rhai o'n hysbytai yn adrodd am fwy o achosion Covid-19 ac wedi penderfynu cyfyngu ar ymweliadau ar hyn o bryd.

"Os ydych chi'n ymweld a lleoliad iechyd, gwisgwch fasg. Os ydych chi'n teimlo'n sal, ewch i adrannau achosion brys dim ond os yw'n argyfwng go iawn. Gallwch gael cyngor gan GIG 111 Cymru dros y ffon neu ar-lein a gall eich fferyllydd lleol hefyd roi cyngor a meddyginiaeth ichi."