Cyngres Europa: Gobeithion timau Cymru dal yn fyw

Bydd y ddau glwb o Gymru yn wynebu eu hail gymal yn Ewrop gyda gol o anfantais yn dilyn gemau nos Iau.

Cyngres Europa: Gobeithion timau Cymru dal yn fyw

Bydd y ddau glwb o Gymru yn wynebu eu hail gymal yn Ewrop gyda gol o anfantais yn dilyn gemau nos Iau.

Roedd y Bala yn croesawu Sligo Rovers o'r Iwerddon tra roedd y Drenewydd yn gwneud y daith ogleddol i Ynysoedd Ffaroe i wynebu Havnar Boltfelag Torshavn.

Roedd y Bala yn gorfod chwarae eu gem gartref yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gan nad yw Maes Tegid yn bodloni gofynion UEFA ar gyfer gemau Ewropeaidd.

Ond daeth y cychwyn perffaith i dim Colin Caton yn eu cartref dros dro wedi pum munud yn unig, gydag ergyd bwerus Lassana Mendes yn ddigon i guro McGinty yng ngol yr ymwelwyr.

Er hynny, gweithiodd Sligo eu hunain i mewn i'r gem gan daro'r postyn wedi 25 munud.

Ni lwyddodd hynny i sbarduno'r Bala, serch hynny, wrth i'r tim o ogledd orllewin Iwerddon ddod yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach diolch i Aidan Keena, a fanteisiodd ar ddiffyg dealltwriaeth ymysg amddiffyn y Bala wrth rwydo'n gelfydd.

Ar gychwyn yr ail hanner daeth Sligo o fewn modfeddi i gymryd y blaen, ond gafodd Alex Ramsay ddigon o law ar yr ergyd i'w chadw allan.

Ond brin funud yn ddiweddarach fe ddaeth ail y Gwyddelod wrth i ergyd Max Mata wasgu fewn i gornel isa'r rhwyd yn dilyn cic gornel.

Roedd hyn i fawr foddhad y dros 500 o gefnogwyr oedd wedi teithio dros For Iwerddon, gyda Sligo yn fodlon dychwelyd adref gydag un gol o fantais wrth i'r Bala ddechrau blino yn erbyn y tim proffesiynol llawn amser.

Ond daeth gobaith o'r newydd gyda phrin ddeg munud yn weddill wedi i amddiffynnwr rhyngwladol Seland Newydd, Nando Pijnaker, weld y cerdyn coch am lorio Dave Edwards pan roedd drwodd ar y gol.

Ofer fu ymdrechion y Bala, serch hynny, wrth i Sligo sicrhau mantais werthfawr cyn i'r ddau wynebu'i gilydd unwaith eto nos Iau nesaf.

Tra allan yn Ynysoedd Ffaroe roedd hi'n noson anodd i'r Drenewydd wrth iddynt geisio gwrthsefyll pwysau sylweddol Havnar Boltfelag.

Fe ddaeth tim Chris Hughes o dan bwysau sylweddol yn Torshavn ond llwyddodd Dave Jones i gadw llechen lan am awr.

Ond daeth unig gol y gem i'r tim cartref gyda 66 munud ar y cloc wrth i'r amddiffynnwr rhyngwladol, Bartal Wardum, benio o gic gornel.

Sbardunodd hyn y Drenewydd gan greu sawl hanner cyfle wrth i'r gem ddod i derfyn, heb lwyddo i ddarganfod gefn y rhwyd.

Ond fel y Bala, mae her yn wynebu'r Drenewydd mewn wythnos os am wneud argraff yng nghystadlaethau Ewrop eleni.